John Morris-Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Gwybodlen Person
| enw =Syr John Morris-Jones
| delwedd =SirProfessor John Morris- Jones NLW3363666.jpg
| maint_delwedd =250px
| pennawd =John Morris-Jones tua 1885
Llinell 40:
[[Bardd]], ysgolhaig, [[gramadeg]]ydd a [[beirniadaeth lenyddol|beirniad llenyddol]] oedd Syr '''John Morris-Jones''' ([[17 Hydref]], [[1864]] - [[16 Ebrill]], [[1929]]). Gosododd seiliau cadarn i ysgolheictod Cymraeg a safonau'r iaith [[Gymraeg]] fel cyfrwng llenyddol yn yr [[20fed ganrif]]. Enwir Neuadd John Morris-Jones, neuadd Gymraeg [[Prifysgol Cymru, Bangor]], ar ei ôl.
 
==HanesBywgraffiad==
[[Delwedd:Morris-Jones.jpg|200px|chwith|bawd|John Morris-Jones: portread olew cyfoes.]]
Cafodd ei eni ym mhentref bychan [[Trefor (Môn)|Trefor]], plwyf [[Llandrygarn]], [[Sir Fôn]]. Yn fuan wedi hynny, symudodd y teulu i fyw yn [[Llanfairpwllgwyngyll]]. Wedi cael ei addysg gynnar yn [[Ysgol Friars, Bangor]], a [[Coleg Crist, Aberhonddu|Choleg Crist, Aberhonddu]], enillodd ysgoloriaeth i [[Coleg Yr Iesu, Rhydychen|Goleg Yr Iesu, Rhydychen]] i astudio mathemateg. Yno cafodd flas ar astudio'r iaith Gymraeg a [[llenyddiaeth Gymraeg]], ac 'roedd yn un o sylfaenwyr [[Cymdeithas Dafydd ap Gwilym]] yn [[1880]]. Aeth ymlaen wedyn i astudio'r [[Gymraeg]] yn Rhydychen dan yr Athro Syr [[John Rhŷs]].
 
[[Delwedd:Morris-Jones.jpg|chwith|bawd|John Morris-Jones: portread olew cyfoes.]]
Penodwyd Morris-Jones yn ddarlithydd yn y Gymraeg yng [[Prifysgol Cymru, Bangor|Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru]], [[Bangor]], yn [[1888]] ac yn [[1895]] yn athro yn yr Adran Gymraeg newydd; ymhlith ei ddisgyblion oedd Syr [[Ifor Williams]]. Fe'i urddwyd yn farchog yn [[1918]]. Bu farw yn [[1929]] ac fe'i claddwyd yn Llanfairpwllgwyngyll.
 
Llinell 51:
Gyda'i hen gyfaill [[John Rhŷs]], yntau'n ysgolhaig Celtaidd o fri yn ei ddydd, golygodd John Morris-Jones argraffiad o ''[[Llyfr yr Ancr]]'' (1894). Ond yn bwysicach na hynny, golygodd argraffiad newydd o glasur [[Ellis Wynne]] ''[[Gweledigaethau'r Bardd Cwsg]]'' sy'n astudiaeth bwysig ond hefyd yn un o'r gweithiau ganddo a ysgogodd lenorion cyfoes i droi yn ôl at arddull coeth [[rhyddiaith]] Gymraeg glasurol i godi eu safonau a dadwneud effaith niweidiol dylanwad pobl fel [[William Owen Pughe]] ar y Gymraeg fel iaith lenyddol.
 
==Y barddBardd==
Dim ond un gyfrol o farddoniaeth a gyhoeddodd ond roedd y gyfrol honno, ''Caniadau'' (1907) yn ddylanwadol yn ei dydd. Y cerddi enwocaf ynddi efallai y 'Cân i Famon', 'Cymru Fu: Cymru Fydd' a'r cyfieithiadau o rai o gerddi [[Heine]] ac [[Omar Khayyam]]. Er nad yw'r cerddi eu hunain o'r safon uchaf efallai, yn rhannol oherwydd y rhamantiaeth ordeimladol a geir ynddynt, roeddent yn boblogaidd yn eu dydd ac yn hwb arall i safonau llenyddol y cyfnod oherwydd cynildeb a mireinder eu mynegiant.
 
==Llyfryddiaeth==
[[Delwedd:Sir John Morris-Jones.jpg|200px|bawd|Syr John Morris-Jones]]
===Gwaith John Morris-Jones===
[[Delwedd:John Morris-Jones (llyfr).jpg|bawd|[[E-lyfr]] gan [[Gwasg Prifysgol Cymru|Wasg Prifysgol Cymru]].]]
*''Welsh Orthography'' (1893)
*''[[Caniadau (John Morris-Jones)|Caniadau]]'' (1907). Barddoniaeth.
Llinell 68:
* [[Bedwyr Lewis Jones]], ''Syr John Morris-Jones'', yn Bedwyr Lewis Jones (golygydd) ''Gwŷr Môn'' (1979).
* [[Thomas Parry]], ''Syr John Morris-Jones'' (1958)
 
==Cyeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{comin|Category:John Morris-Jones|John Morris-Jones}}
 
<!-- Categoriau a rhyngwici yn unig isod -->