Edward Richard: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Bardd]] ac ysgolhaig o [[Ceredigion|Geredigion]] oedd '''Edward Richard''' (mis [[Mawrth]], [[1714]] - [[7 Mawrth]], [[1777]]). Mae'n adnabyddus yn bennaf am ei ddwy [[bugeilgerdd|fugeilgerdd]].
 
Fe'i ganed yn [[Ystrad Meurig]], uwchben [[Dyffryn Teifi]], ac yno y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. Roedd yn fab i deiliwr a thafarnwr. Cafodd ei fam Gwenllian ddylanwad mawr ar y bardd. Roedd ganddo un frawd, Abraham. Cafodd ei addysg yn yr ieithoedd [[Groeg]] a [[Lladin]] ganddo ar ôl iddo raddio o [[Prifysgol Rhydychen|Brifysgol Rhydychen]] a dychwelyd i Ystrad Meurig. Aeth Edward i Ysgol Ramadeg [[Caerfyrddin]] lle cafodd ei drwytho yn y [[clasur]]on. Pan ddychwelodd i'w fro yn [[1736]] agorodd ysgol elfennol ac yno y bu am weddill ei oes yn athro ysgol a myfyriwr y clasuron Groeg a Lladin. Ymhlith ei ddisgyblion oedd John Williams, mab [[William Williams Pantycelyn]], [[Dafydd Ionawr]], meibion [[Lewis Morris]] ac [[Ieuan Fardd]].
 
Dim on dyrnaid o gerddi Edward Richard a gyhoeddwyd ond mae eu hansawdd yn uchel (credir fod nifer o gerddi eraill, yn ei lawysgrif ei hun, wedi diflannu). Ceir dwy gân werinol am ei fro, [[emyn]], cyfieithiad o faled gan [[John Gay]] ac [[englyn]]ion ar farwolaeth plentyn. Ei waith pwysicaf yw'r ddwy fugeilgerdd a gyhoeddwyd yn [[1765]] a [[1776]]. Mae dyled Edward Richard i'r bardd Groeg [[Theocritus]] yn amlwg, ond nid efelychiaid arwynebol ydynt. Mae'r gyntaf yn coffhau ei fam Gwenllian a'r ail yn ymddiddan rhwng dau fugail, Gruffudd a Meurig, sy'n cyfuno elfennau personol a chymdeithasol.
 
Addfwynder myfyrgar yw prif nodwedd ei waith, ynghyd â naturioldeb a glendid arddull. Gwelir hyn yn ei ddau englyn syml ond trawiadol ar farwolaeth plentyn, er enghraifft. Dyma'r cyntaf:
Llinell 14:
===Gwaith y bardd===
Ceir testunau o'r bugeilgerddi a cherddi eraill yn:
*O.M. Edwards (gol.), ''Gwaith Edward Richard'' (Llanuwchllyn, 1912)
*D. Gwenallt Jones (gol.), ''Blodeugerdd o'r Ddeunawfed Ganrif'' (Caerdydd, 1953)
===Darllen pellach===
*John Gwilym Jones, 'Edward Richard ac Evan Evans (Ieuan Fard)', yn Dyfnallt Morgan (gol.), ''Gwŷr Llên y Ddeunawfed Ganrif'' (Llyfrau'r Dryw, 1966
*John Gwilym
*D.G. Osborne-Jones, ''Edward Richard of Ystradmeurig''
*Saunders Lewis, ''A School of Welsh Augustans'' (1924)
 
[[Categori:Beirdd Cymraeg|Richard, Edward]]