Ystrad Meurig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Pentref bychan a phlwyf uwchben Dyffryn Teifi yng Ngheredigion yw '''Ystrad Meurig''' (neu '''Ystradmeurig'''). Fe'i lleolir ar y B4340 tua hanner ffordd rhwng [[P...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Pentref bychan a phlwyf uwchben [[Dyffryn Teifi]] yng [[Ceredigion|Ngheredigion]] yw '''Ystrad Meurig''' (neu '''Ystradmeurig'''). Fe'i lleolir ar y B4340 tua hanner ffordd rhwng [[Pontrhydfendigaid]] i'r dwyrain a [[Lledrod]] i'r gorllewin, tua 12 milltir i'r de-ddwyrain o [[Aberystwyth]].
 
Saif y pentref ger tro ar [[Afon Teifi]] filltir o'r man lle ymuna ffrwd Afon Meurig . Yn ymyl y pentref ceir adfeilion [[castell Ystrad Meurig]] a godwyd gan [[Gilbert de Clare]] ym [[1116]]. Llosgwyd y [[castell mwnt a beili]] hwnnw gan meibion [[Gruffudd ap Cynan]] yn [[1137]]; fe'i ailadeiladwyd ond cafodd ei ddinistrio'n derfynnol yn [[1199]]. Ar ben Craig Ystrad Meurig i'r gogledd o'r pentref ceir [[bryngaer|fryngaer]] fechan.
 
Ganwyd y bardd ac ysgolhaig [[Edward Richard]] yno ym mis Mawrth [[1714]]. Yno bu'n cadw ysgol elfennol o [[1734]] hyd ei farwolaeth. Roedd ei ddisgyblion yn cynnwys meibion [[Lewis Morris]], mab [[William Williams Pantycelyn]] ac [[Ieuan Fardd]].