Poseidonius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
cat
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Ganed Poseidonius i deulu Groegaidd yn [[Apamea (Syria)|Apamea]], dinas Rhufeinig ar [[Afon Orontes]]. Cafodd ei addysgu yn [[Athens]], lle roedd yn un o fyfyrwyr [[Panaetius]], pennaeth yr ysgol [[Stoiciaeth|Stoicaidd]] o athroniaeth. Tua 95 CC. ymsefydlodd yn Rhodos, lle bu'n dal swyddi megis [[prytaneis]] (un o'r arlywyddio, am gyfnod o chwe mis) a llysgennad i [[Rhufain|Rufain]]. Roedd yn bleidiol i Rufain fel grym allai roi sefydlogrwydd mewn byd anwadal.
 
Teithiodd Poseidonius i nifer o wledydd ar gyfer ei ymchwiliadau: [[Groeg]], [[Hispania]], [[Gogledd Affrica]], [[yr Eidal]], [[Sicilia]], [[Dalmatia]], [[Gâl]], [[Liguria]] a'r [[BalcanayBalcanau]]. Bu'n astudio'r [[llanw]] yn Gades ar arfordir Hispania ([[Cadiz]] heddiw), a bu'n astudio [[y Celtiaid]] yng Ngâl, gan adrodd am bethau rhyfedd a welodd a'i lygaid ei hun, megis hoelio penglogau gelynion wrth ddrysau fel arwydd o lwyddiant mewn rhyfel. Nododd fodd bynnag barch y Celtiaid ar y [[Derwydd|Derwyddon]], ac ystyriai ef hwy'n athronwyr o fath. Ysgrifennodd lyfr ar wlad y Celtiaid, sydd bellach ar goll ond a ddefnyddiwyd gan nifer o awduron erall, megis [[Timagenes]], [[Iŵl Cesar]], [[Diodorus Siculus]] a [[Strabo]].
 
Athroniaeth oedd y pwnc pwysicaf i Poseidonius, ac ystyriai'r gwyddorau eraill yn ganghennau o athroniaeth. Roedd yn ddilynwr selog yr ysgol Stoicaidd mewn athroniaeth.