Poseidonius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Image:Posidonius2.jpg|right|thumb|200px|Poseidonius fel athronydd Stoicaidd.]]
 
Roedd '''Poseidonius''' ([[Groeg]]: Ποσειδώνιος / Poseidonios), sillefir hefyd '''Posidonius''', weithiau "o [[Rhodos]]" (ὁ Ρόδιος) neu "o [[Apamea (Syria)|Apameia]]" (ὁ Απαμεύς) (tua 135 CC. - 51 CC.), yn athronydd, gwleidydd, daearyddwr, seryddwr, hanesydd, athro ac awdur Groegaidd. Ystyried ef yn un o ddynion mwyaf galluog ei oes, gyda [[Aristotles]] ac [[Eratosthenes]] yn un o'r ychydig a ddaeth yn agos at feistroli yr holl wybodaeth oedd ar gael yn ei gyfnod. Ysgrifennodd nifer sylweddol o lyfrau, ond dim ond rhannau sydd wedi goroesi.
 
Ganed Poseidonius i deulu Groegaidd yn [[Apamea (Syria)|Apamea]], dinas Rhufeinig ar [[Afon Orontes]]. Cafodd ei addysgu yn [[Athens]], lle roedd yn un o fyfyrwyr [[Panaetius]], pennaeth yr ysgol [[Stoiciaeth|Stoicaidd]] o athroniaeth. Tua 95 CC. ymsefydlodd yn Rhodos, lle bu'n dal swyddi megis [[prytaneis]] (un o'r arlywyddio, am gyfnod o chwe mis) a llysgennad i [[Rhufain|Rufain]]. Roedd yn bleidiol i Rufain fel grym allai roi sefydlogrwydd mewn byd anwadal.