Poseidonius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Roedd '''Poseidonius''' ([[Groeg]]: Ποσειδώνιος / Poseidonios), sillefir hefyd '''Posidonius''', weithiau "o [[Rhodos]]" (ὁ Ρόδιος) neu "o [[Apamea (Syria)|Apameia]]" (ὁ Απαμεύς) (tua 135 CC. - 51 CC.), yn athronydd, gwleidydd, daearyddwr, seryddwr, hanesydd, athro ac awdur Groegaidd. Ystyried ef yn un o ddynion mwyaf galluog ei oes, gyda [[Aristotles]] ac [[Eratosthenes]] yn un o'r ychydig a ddaeth yn agos at feistroli yr holl wybodaeth oedd ar gael yn ei gyfnod. Ysgrifennodd nifer sylweddol o lyfrau, ond dim ond rhannau sydd wedi goroesi.
 
Ganed Poseidonius i deulu Groegaidd yn [[Apamea (Syria)|Apamea]], dinas Rhufeinig ar [[Afon Orontes]]. Cafodd ei addysgu yn [[Athens]], lle roedd yn un o fyfyrwyr [[Panaetius]], pennaeth yr ysgol [[Stoiciaeth|Stoicaidd]] o athroniaeth. Tua 95 CC. ymsefydlodd yn Rhodos, lle bu'n dal swyddi megis [[prytaneis]] (un o'r arlywyddioarlywyddion, am gyfnod o chwe mis) a llysgennad i [[Rhufain|Rufain]]. Roedd yn bleidiol i Rufain fel grym allai roi sefydlogrwydd mewn byd anwadal.
 
Teithiodd Poseidonius i nifer o wledydd ar gyfer ei ymchwiliadau: [[Groeg]], [[Hispania]], [[Gogledd Affrica]], [[yr Eidal]], [[Sicilia]], [[Dalmatia]], [[Gâl]], [[Liguria]] a'r [[Balcanau]]. Bu'n astudio'r [[llanw]] yn Gades ar arfordir Hispania ([[Cadiz]] heddiw), a bu'n astudio [[y Celtiaid]] yng Ngâl, gan adrodd am bethau rhyfedd a welodd a'i lygaid ei hun, megis hoelio penglogau gelynion wrth ddrysau fel arwydd o lwyddiant mewn rhyfel. Nododd fodd bynnag barch y Celtiaid ar y [[Derwydd|Derwyddon]], ac ystyriai ef hwy'n athronwyr o fath. Ysgrifennodd lyfr ar wlad y Celtiaid, sydd bellach ar goll ond a ddefnyddiwyd gan nifer o awduron erall, megis [[Timagenes]], [[Iŵl Cesar]], [[Diodorus Siculus]] a [[Strabo]].