Pont y Borth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thijs!bot (sgwrs | cyfraniadau)
Y bont ar stamp a chywiro iaith
Llinell 6:
==Adeiladu’r Bont==
 
Cyn adeiladu’r bont, dim ond ar y dwrdŵr y gellid teithio rhwng yr Ynys a’r tir mawr. ‘Roedd fferi [[Bangor]] i [[Porthaethwy|Borthaethwy]] y pennaf ohonynt, ac mae cofnod i [[Elisabeth I o Loegr]] osod yr hawl i un John Williams yn [[1594]].
 
‘Roedd Undeb [[Prydain Fawr]] gydag [[Iwerddon]] wedi creu galw am gryfhau’r cysylltiad ymarferol rhwng [[Llundain]] a [[Dulyn]]. Wedi sefydlu pwyllgor seneddol, comisiynwyd [[Thomas Telford]], nid yn unig i adeiladu’r bont hon, ond i wella safon y ffyrdd yr holl ffordd o [[Llundain|Lundain]] i [[Caergybi|Gaergybi]]. Gan mai fyrddffyrdd tyrpeg yn nwylo preifat oedd yn y wlad bryd hynny, hwn oedd y tro cyntaf i arian cyhoeddus gyllido adeiladu ffyrdd ym Mhrydain ers oes y [[Ymerodraeth Rhufeinig|Rhufeiniaid]].
 
Gofynnwyd i Telford hefyd i wella’r ffordd rhwng [[Bangor]] a [[Conwy|Chonwy]] ac i grosi’r [[Afon Conwy]] yno. Adeiladodd [[pont grog]] hefyd yng Nghonwy i batrwn cyffelyb, ac agorwyd y ddwy bont yr un flwyddyn.
Llinell 14:
[[Image:Select Sketches - Menai Bridge 2.jpg|bawd|dde|300px|Plat o’r [[1840au]] yn darlunio’r Bont]]
 
‘Roedd y dasg o groesi’r [[Afon Menai]] yn fwy uchelgeisiol, nid yn unig oherwydd llêdlled y culfor, ond hefyd am fod raid iddo osod y gerbydlon 100 troedfedd uwchben y dwr, er mwyn caniatáu mynediad i longau hwylio’rhwylio tal yr oes.
 
CychwynnwydCychwynwyd ar y gwaith ar [[10 Awst]] [[1819]] wrth osod y garreg sylfaen. Adeiladwyd y tyrrau o [[Calchfaen|galchfaen]] lleol o chwareli [[Penmon]] dros y pum mlynedd nesaf. Rhwng Ebrill a Gorffennaf [[1825]], codwyd y cadwyni haearn at ben y tyrrau ar draws o [[Sir Fôn]] i [[Sir Gaernarfon]]. Wedi hynny, gosodwyd y gerbydlon yn crogi dan y cadwyni. ‘Roedd rhai wedi amau a fyddai’r cynllun yn llwyddo, ond cydnabyddwyd bod y canlyniad i wedi creu campwaith peirianyddol o [[pont grog|bont grog]] ar y raddfa hwn.
 
Agorwyd y bont i’r cyhoedd (er bod angen talu toll) am 1.35am ar [[30 Ionawr]] [[1826]].
Llinell 42:
Erbyn heddiw mae’r bont yn parhau i gludo’r [[A5]] ar draws [[Afon Menai]]. Mae Pont y Borth yn parhau i fod yn rhan o rwydwaith cefnffyrdd cenedlaethol, am fod [[Pont Britannia]] mor agored i wyntoedd cryfion, ac (yn anaml iawn) rhaid gwyro lorïau trymion ar draws Pont y Borth. Mae’r ddwy bont yn cael eu rheoli gan gonsortiwm Menter Cyllid Preifat ar ran [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru]].
 
Pont y Borth yw’r unig bont ar draws y Fenai sy’n agored i gerddwyr. Mae [[Llwybr Arfordirol Ynys Mon]] yn mynd oddi tani. Saif gofebcofeb i [[Aberfan|Drychineb Aberfan]] ar ochr [[Ynys Môn]] i’ro’r bont.
 
Ymddangosodd llun o'r bont, ar un o stampiau Swyddfa'r Post yn [[1968]], cyfres o bedwar stamp yn dangos pontydd. Cofnodir Pont y Borth hefyd ar gefn y darnau un bunt a fathwyd yn [[2005]], ac a arluniwyd gan [[Edwins Ellis]]. Cafodd y bont ei henwebu ar gyfer dod yn un o [[Safleoedd Treftadaeth y Byd]] [[UNESCO]], ond gwrthodwyd y cais ym [[1998]].
 
==Arddangosfeydd a chreiriau==