Cwm Pennant (Gwynedd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Mae '''Cwm Pennant''' yn gwm yng [[Gwynedd|Ngwynedd]] ychydig i'r gogledd-ddwyrain o dref [[Porthmadog]], sy'n cael ei ffurfio gan ran uchaf [[Afon Dwyfor]]. Gellir ei gyrraedd o bentref [[Dolbenmaen]] ger y briffordd [[A487]] lle mae ffordd fechan yn arwain tua'r gogledd i fyny'r cwm ar lan orllewinol Afon Dwyfor, gyda ffordd arall yn croesi'r afon ac arwain rhan o'r ffordd ar hyd y lan ddwyreiniol. Gellir cerdded i mewn i ran uchaf y cwm o [[Rhyd Ddu|Ryd Ddu]] ar hyd llwybr trwy Fwlch y Ddwy Elor.
 
Ar ochr ddwyreiniol y cwm mae [[Moel Hebog]], [[Moel yr Ogof]] a [[Moel Lefn]], tra ar yr ochr orllewinol ac i'r gogledd mae mynyddoedd [[GarneddCrib GochNantlle]]. Ffurfir nifer o gymoedd llai gan nentydd sy'n llifo i mewn i Afon Dwyfor, er enghraifft Cwm Llefrith, Cwm Trwsgl a Cwm Ciprwth. Poblogaeth wasgaredig sydd yn y cwm, gyda ychydig o dai yn ffurfio pentref [[Llanfihangel-y-pennant (Cwm Pennant)|Llanfihangel-y-pennant]].
 
Mae'r cwm yn nodedig am harddwch ei olygfeydd, a daeth yn adnabyddus trwy y gerdd ''Cwm Pennant'' gan [[Eifion Wyn]]: ''Yng nghesail y moelydd unig, / Cwm tecaf y cymoedd yw,- ''. Ar un adeg roedd nifer o chwareli llechi yn rhan uchaf y cwm ac yn rhai o'r cymoedd llai sy'n cysylltu ag ef, a gellir gweld yr olion o hyd. Ni fu'r un o'r rhain yn llwyddiannus iawn, er enghraiift methiant oedd chwarel y ''Prince of Wales'' yn mlaen y cwm. Gellir gweld olion trac y rheilffordd oedd yn arwain i'r chwarel yma, oedd a'r enw mawreddog ''Gorseddau Junction & Portmadoc Railway''. Roedd hefyd fwynglawdd [[copr]] yng Nghwm Ciprwth.