Eros: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Duw serch ym mytholeg Roeg oedd '''Eros''' (Groeg (iaith): ''Ἔρως''). Roedd yn cyfateb â Chiwpid ym mytholeg Rufeinig. Yng n...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 19:19, 25 Ionawr 2015
Duw serch ym mytholeg Roeg oedd Eros (Groeg: Ἔρως). Roedd yn cyfateb â Chiwpid ym mytholeg Rufeinig. Yng ngherdd Hesiodos, Theogonia, roedd yn un o dduwiau'r cynfyd, yn fab i Chaos, ond yn nhraddodiad hwyrach daeth yn fab i Aphrodite, duwies cariad; Zeus, Ares neu Hermes oedd ei dad. Roedd Anteros yn frawd iddo.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg) Eros. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 25 Ionawr 2015.