Ffracio: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cat
Iaith
Llinell 2:
'''Ffracio''' (neu '''ffracio hydrolig''') yw'r dull o dorri [[Daeareg|creigiau]] drwy wasgu gyda hylif sy'n cynnwys dŵr, tywod a [[cemegolyn|chemegolion]]. Ceir ffracio naturiol ar adegau, e.e. mewn daeareg ceir gwythiennau a deics.<ref name="Blundell et al">{{cite journal | url=http://books.google.co.uk/books?id=4DZCHESg9R4C&pg=PA340&dq=%22hydraulic+fracturing%22+veins+dykes&hl=en&sa=X&ei=K38oVK6UNKGf7gaW3oGwDw&ved=0CDMQ6AEwAA#v=onepage&q=%22hydraulic%20fracturing%22%20veins%20dykes&f=false | title=''Processes of tectonism, magmatism and mineralization: Lessons from Europe'' | author=Blundell D., | journal=Ore Geology Reviews | year=2005 | volume=27 | pages=340}}</ref> Mae'r hylif yn cael ei bwmpio dan bwysau enfawr i dyllau a wnaed gan ddril mewn craig, sy'n achosi i'r graig gracio ymhell o dan wyneb y ddaear. Drwy'r craciau hyn rhyddheir [[nwy]], [[petroliwm]] a dŵr hallt. Mae'r gronynnau tywod yn yr hylif yn dal pob hollt bychan ar agor, sy'n caniatáu i'r nwyon a'r petroliwm ddianc o'r graig, a'i sugno i fyny i'r wyneb.
 
Dechreuwyd arbrofi gydaâ ffracio hydrolig yn 1947, a chychwynodd y gwaith masnachol cyntaf yn 1950. Yn 2012 roedd ffracio hydrolig wedi cymryd lle ar 2.5 miliwn o adegau, mewn gwahanol rannau o'r byd gyda ffynhonnau olew a ffynhonnau nwy. Roedd dros miliwn o'r rhain wedi digwydd yn [[Unol Daleithiau America]].<ref>{{Citation | first = George E | last = King | format = PDF | url = http://www.kgs.ku.edu/PRS/Fracturing/Frac_Paper_SPE_152596.pdf | title = ''Hydraulic fracturing 101'' | publisher = 'Society of Petroleum Engineers' | id = Paper 152596 | year = 2012}}</ref>.
[[File:Frac job in process.JPG|bawd|270px|chwith|Ffracio ar waith]]
 
Mae ffracio'n destun dadl ym mhob cwr o'r byd, gyda rhai yn ei weld yn fwy 'gwyrdd' nag ynni niwclear ac yn ateb sydyn i'r broblem o ryddhau [[hydrocarbon]]au, ar y naill law.<ref name="WEO2012 Special">{{cite book |url= http://www.worldenergyoutlook.org/media/weowebsite/2012/goldenrules/WEO2012_GoldenRulesReport.pdf |title= Golden Rules for a Golden Age of Gas. World Energy Outlook Special Report on Unconventional Gas |date= 29 May 2012 | author=[[International Energy Agency|IEA]] | publisher = [[Organisation for Economic Co-operation and Development|OECD]] |format = PDF | pages = 18–27 }}</ref><ref>Hillard Huntington et al. [http://emf.stanford.edu/publications/emf_26_changing_the_game_emissions_and_market_implications_of_new_natural_gas_supplies/ Adroddiad EMF 26: ''Changing the Game? Emissions and Market Implications of New Natural Gas Supplies'']. Stanford University. Energy Modeling Forum, 2013.</ref> Ar y llaw arall ceir dadleuon bod ffracio yn medru halogi'r gronfa ddŵr tanddaearol, yn halogi'r aer, yn creu sŵn ac y gall hyn effeithio ar iechyd pobl yn ogystal â'r [[amgylchedd]]. Cred gwrthwynebwyr ffracio hefyd y gall ffracio sbarduno [[daeargryn]]feydd.<ref name="HeatOnGas">{{Cite journal |last=Brown |first=Valerie J. |url=http://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC1817691/ |title=Industry Issues: Putting the Heat on Gas |date=February 2007 |journal=Environmental Health Perspectives |publisher=US National Institute of Environmental Health Sciences |page=A76 |volume=115 |issue=2 |pmc=1817691 |accessdate=2012-05-01 |pmid=17384744 |doi=10.1289/ehp.115-a76}}</ref>
 
panPan fo [[ffawt]]iau naturiol mewn craig, gall ffracio achosi problemau seismig; gwaharwddwyd ffracio mewn ardaloedd lle gwyddys fodbod y broblem hon yn bodoli; ond ar adegau mae'r ffawltiau'n bodoli heb yn wybod i'r daearegydd a gall chwistrellu hylif dan bwysau achosi gweithgaredd seismig a all, yn ei drothro, achosi daeargrynfeydd bychan a difrod i adeiladau.<ref name="interpress08072013">{{cite news |url=http://www.ipsnews.net/2013/08/govt-energy-industry-accused-of-suppressing-fracking-dangers/ |title=''Govt, Energy Industry Accused of Suppressing Fracking Dangers''|author=Jared Metzker |date=7 Awst 2013 |publisher=[[Inter Press Service]] |accessdate=28 Rhagfyr 2013}}</ref>
 
==Cymru==
 
Mae unrhyw benderfyniadau ynglŷn ffracio'n cael eu gwneud yn [[San Steffan]] yn hytrach na [[Caerdydd|Chaerdydd]]. Mae hyn yn gwbwlgwbl wahanol i'r sefyllfa yn yr [[Alban]]. Dywedodd Dr Dai Lloyd, Plaid Cymru: ''"Felly paham gwahaniaethu yn erbyn Cymru – unwaith yn rhagor – a’n trin fel cenedl eilradd?
 
“Mae Plaid Cymru hefyd yn cefnogi moratoriwm ar ffracio i adlewyrchu ei effeithiau ar newid hinsawdd, yr amgylchedd, iechyd a diogelwch, a’r economi.”"''<ref>[http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/175569-ffracio-dylai-pobol-cymru-benderfynu?utm_source=twitterfeed&utm_medium=twitter 25 Ionawr 2015; adalwyd 25 Ionawr 2015</ref>
 
Yn 2014 gwelwyd nifer o brotestiadau yn erbyn ffracio, ond nid yr un dros ffracio yng Nghymru. Cadwynodd nifer o wrthwynebwyr a oedd yn aelodau o ''Reclaim the Power'' eu hunain i ffesysffensys gwaith adeiladu yn Abertawe.<ref>[http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/158342-protest-gwrth-ffracio-yn-achosi-tagfeydd Golwg 360;] adalwyd 25 Ionawr 2015</ref>
 
==Unol Daleithiau America==
Llinell 21:
[[Delwedd:Ffracio.png|thumb|320px|Rhagfynegiad EIA o gynhyrchu olew yn yr UDA hyd at 2040.<ref name=AEO2013>{{cite report|title=AEO2013 Early Release Overview |url=http://www.eia.gov/forecasts/aeo/er/pdf/0383er(2013).pdf |publisher=U.S. Energy Information Administration|accessdate=17 Medi 2014}}</ref>{{rp|1}}]]
[[Delwedd:Ffracio nwy.png|320px|thumb|Rhagfynegiad EIA o gynhyrchu nwy yn yr UDA hyd at 2014 mewn triliwn troedfedd ciwbig.<ref name=AEO2013/>{{rp|2}}]]
Yn 2010 roedd 26% o'r nwy a gynhyrchwyd yn yr UDA yn dod o [[tywodfaen|dywodfaen]] tynn (''tight sandstone'') a 23% o [[siâl]], sy'n rhoi cyfanswm a gynhyrchwyd drwy ffracio yn 49% - bron i hanner holl gynnyrch olew a nwy yr Unol Daleithiau.<ref>US Energy Information Administration, ''United States Annual Energy Outlook 2012'', tud.208.</ref> Wrth i'r UDA gynhyrchu mwy-a-mwy nid oedd angen mewnforio cymaint o wledydd eraill; yn 2012 mewnforiodd UDA 32% yn llai nag yn 2007.<ref>''US Energy Information Administration'', [http://www.eia.gov/dnav/ng/hist/n9100us2A.htm Natural gas imports]</ref> Yn 2013 rhagwelodd Gweinyddiaeth Gwybodaeth Ynni yr UDA y byddant yn allforio yn hytrach nag yn mewnforio erbyn 2020. Mae hyn yn golygu fodbod gwledydd fel [[Sawdi Arabia]]'n allforio llawer llai o nwy ac olew (neu betroliwm) nag yr oeddent ddegddeng mlynedd yn ôl. Oherwydd hyn, a rhai ffactorau eraill, gwelwyd gostyngiad ym mhrisiau olew ledled y byd.<ref>Adam Sieminski, [http://www.eia.gov/pressroom/presentations/sieminski_03142013_iea.pdf U.S. Energy Outlook], US Energy Information Administration, 14 Mar. 2013, p.12.</ref>
 
==Cyfeiriadau==