Thelonious Monk: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
[[Pianydd]] a chyfansoddwr [[jazz]] [[Americanwyr|Americanaidd]] oedd '''Thelonious Sphere Monk''' (10 Hydref 1917 – 17 Chwefror 1982).
 
Ganwyd yn Rocky Mount, [[Gogledd Carolina]], a symudodd i [[Manhattan]], [[Dinas Efrog Newydd]], yn 4 oed a bu'n byw yno am weddill ei fywyd. Yn y 1930au a'r 1940au canodd biano yn [[Minton's Playhouse]] yn [[Harlem]], ac ynayno cafodd ddylanwad ar gerddorion a ddatblygodd yr arddull [[bebop]].<ref name=NYT>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.nytimes.com/learning/general/onthisday/bday/1010.html |teitl=Thelonious Monk, Created Wry Jazz Melodies and New Harmonies |gwaith=[[The New York Times]] |awdur=Wilson, John S. |dyddiad=18 Chwefror 1982 |dyddiadcyrchiad=17 Medi 2014 }}</ref>
 
Ym 1951 treuliodd 60 niwrnod mewn carchar am feddu ar gyffuriau, er y mae'n debyg yr oedd yn ddieuog. O ganlyniad collodd ei [[Cerdyn Cabaret Dinas Efrog Newydd|Gerdyn Cabaret]] a chafodd effaith drom ar ei yrfa. Ym 1957, gyda chymorth [[Pannonica de Koenigswarter]], ad-enillodd ei gerdyn gan ei alluogi i berfformio yng nghlwb y Five Spot. Yn y 1960au perfformiodd mewn pedwarawd gyda [[Charlie Rouse]] mewn clybiau, cyngherddau a gwyliau cerddorol ar draws y byd. Perfformiodd yn llai aml yn y 1970au oherwydd salwch. Bu farw yn 64 oed ar ôl cael [[strôc]].<ref name=NYT/>