Llenyddiaeth Gymraeg yr 17eg ganrif: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
chwaneg
Llinell 14:
 
==Ysgolheictod==
Parhaodd gwaith y [[Dyneiddiaeth|dyneiddwyr]] i ddegawdau cyntaf y ganrif newydd, gyda [[Llyfr y Salmau|Salmau]] [[Edwmnd Prys]] yn cael eu cyhoeddi yn [[1621]] er enghraifft. Cafywd yn ogystal ''Y Beibl Bach'' neu'r ''Beibl Coron'' yn [[1630]], a ddaeth â'r ysgrythurau o fewn cyrraedd pawb.
 
Rhaid crybwyll yn ogystal gwaith ysgolheigion fel John Davies o Fallwyd a [[Thomas Jones]], awdur ''[[Y Gymraeg yn ei Disgleirdeb]]'' (1688). Dyma ganrif fawr y copïwyr [[llawysgrifau Cymreig]] yn ogystal, gwŷr a weithiai'n ddistaw yn y cefndir i ddiogelu etifeddiaeth lenyddol Cymru a gosod un o'r sylfeini ar gyfer adfywiad y [[18fed ganrif]].
 
==Rhai cerrig milltir==
* [[1621]] - ''Gramadeg Cymraeg'' [[John Davies (Mallwyd)]] a ''Salmau Cân'' [[Edwmwnd Prys]]
* [[1630]] - ''Y Beibl Bach''
* [[1632]] - Geiriadur Cymraeg-Lladin John Davies
* [[1653]] - ''[[Llyfr y Tri Aderyn]]'' gan [[Morgan Llwyd]]
* [[1658]]-[[1681]] - [[Stephen Hughes]] yn cyhoeddi ''[[Canwyll y Cymry]]'' [[Rhys Prichard|Yr Hen Ficer]]
* [[1667]] - ''Y Ffydd Ddi-ffuant'' gan [[Charles Edwards]]
* [[1686]] - ''Gerdd-Lyfr'' [[Ffoulke Owens]], efallai'r [[blodeugerdd|flodeugerdd]] brintiedig gyntaf yn yr iaith Gymraeg
* [[1694]] - Marw [[Siôn Dafydd Las]], yr olaf o'r hen feirdd teulu ac felly ar sawl ystyr yr olaf o [[Beirdd yr Uchelwyr|Feirdd yr Uchelwyr]]
* [[1699]] - Sefydlu'r [[SPCK]]
 
==Llyfryddiaeth==