Owen Cosby Philipps: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 28:
 
==Achos Llys a Charchariad==
[[File:RMSPC.jpg|220px|thumb|Hysbyseb mordaith gan y RMSPC]]
Cafodd y mwyafrif o longau Grŵp y Royal Mail eu defnyddio gan y Llynges yn ystod y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] a chollwyd dros gant ohonynt. Ar ôl y Rhyfel ceisiodd Phillips i wneud yn iawn am y colledion ar frys a thrwy hynny talodd llawer gormod am ei longau newydd. Roedd long newydd ym 1919 yn costio dros bedair gwaith yr hyn y byddai'n costio ym 1921. Achosodd hyn trafferthion ariannol i'r cwmni. Oherwydd strwythur grŵp cwmni llongau'r Post Brenhinol a natur unbenaethol Phillips fel rheolwr daeth y trafferthion ddim i'r amlwg yn syth. Roedd llawer o draws berchenogaeth yn bodoli yn y grŵp, gyda chwmnïau yn eiddo ar gyfranddaliadau cwmnïau eraill o fewn y grŵp; golygai hyn bod arian yn cael ei symud o gwmpas y grŵp mewn modd a oedd yn creu'r cam argraff bod amgylchiadau arianol y grŵp yn llawer iachach nag oeddynt mewn gwirionedd.