Owen Cosby Philipps: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 34:
 
Gan boeni am y datblygiadau hyn a gan ofni argyfwng economaidd, penododd y llywodraeth y cyfrifydd William McLintock i ymchwilio i sefyllfa ariannol y grŵp. Roedd ei adroddiad a gyhoeddwyd yn gynnar ym 1930 yn dangos fod gan Grŵp llongau'r Post Frenhinol rhwymedigaethau o dros £10,000,000. Perodd i'r banciau gweithredu gan fynnu bod llawer o bwerau Kylsant yn cael eu trosglwyddo i ymddiriedolwyr a benodwyd gan y banciau. Ym mis Chwefror 1931 aeth Yr Arglwydd a'r Arglwyddes Kylsant ar wyliau i Dde Affrica, yn ei absenoldeb Datgelodd y cyfrifydd McLintock bod y grŵp llongau wedi bod yn talu buddrannau i gyfranddalwyr am flynyddoedd er gwaethaf masnachu ar golled. Doedd McLintock ei hun ddim yn cyfeirio at hyn fel twyll ond dyna'r cyhuddiad a wnaed gan Aelodau Seneddol pan gafodd yr achos ei godi yn Nhŷ'r Cyffredin.
[[File:Main gate to the HM Prison Wormwood Scrubs in spring 2013 (2).JPG|bawd|chwith|Carchar Wormwood Scrubs]]
Yn fuan wedi iddo ddychwelyd o Dde Affrica cafodd Kylsant ei arestio a'i gyhuddo o wneud datganiadau ffug mewn perthynas â chyfrifon y cwmni ar gyfer 1926 a 1927, yn groes i adran 84 o Ddeddf Ladrata 1861. Cafodd archwilydd y cwmni, Harold John Morland, ei gyhuddo o helpu ac annog yr un troseddau. Cyhuddwyd Kylsant hefyd o fod yn gyfrifol am gyhoeddi dogfen (y prosbectws a gyhoeddwyd ar gyfer y rhifyn 1928 stoc dyledeb) gyda'r bwriad o dwyllo, yn groes i adran 84 o Ddeddf Ladrata 1861.
Cynhaliwyd yr achos yn erbyn y ddau yn yr [[Old Baily]] ym mis Gorffennaf 1931, a barhaodd am naw niwrnod. Plediodd y ddau yn ddieuog i'r holl gyhuddiadau. Ar ddiwedd yr achos cafwyd y ddau yn ddieuog ar y cyfrif cyntaf ond cafwyd Kylsant yn euog o'r ail gyhuddiad a chafodd ei ddedfrydu i ddeuddeg mis o garchar. Apeliodd yn erbyn y dyfarniad heb lwyddiant a wariodd deg mis o'r dyfarniad yn ei erbyn yng ngharchar Wormwood Scrubs.<ref>Am driniaeth lawn gweler: ''The Royal Mail Case Rex v Lord Kylsant and Another'' gan Collin Brooks Cyhoeddwyd gan William Hodge & Co. (1933)</ref>