Owen Cosby Philipps: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 14:
Ym 1880 aeth yn brentis gyda chwmni llongau Dent & Co [[Newcastle upon Tyne]], wedi cwblhau ei brentisiaeth symudodd i [[Glasgow]] ym 1886 i weithio i gwmni llongau Allan & Gow.
 
Gyda chymorth ariannol gan ei frawd hynaf [[John Philipps, Is-iarll 1af Tyddewi]] sefydlodd Philipps ei gwmni llongau ei hun ''Philipps & Co'' ym 1888, prynodd ei long gyntaf yn 1889 ac erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd y ddau frawd yn berchen dwy linell llongau - ''King Line Ltd'' a'r ''Scottish Steamship Company'', cwmni cyllid the London Maritime Investment Company, a glanfa betrol ar yr [[Afon Tafwys]] The London and Thames Haven Petroleum Wharf
 
Gan fanteisio ar bris isel, prynodd y brodyr cyfranddaliadau yng nghwmni llongau'r Post Brenhinol ''The Royal Mail Steam Packet Company'', erbyn 1902 roedd Owen wedi dod yn gadeirydd a rheolwr gyfarwyddwr y cwmni. Dros yr ugain mlynedd nesaf daethai ef a'r Royal Mail Steam Packet Company yn rheolwyr dros ragor nag ugain o gwmnïau eraill gan gynnwys yr ''Union-Castle Line'' a'r ''Pacific Steam Navigation Company''. Ym 1924 daeth Phillips yn gadeirydd ''Harland and Wolff'' y cwmni adeiladu Llongau o [[Belfast]]. Pinacl eu caffaeliadau oedd dod yn rheolwyr y ''White Star Line'' ym 1927.<ref>The New York Times, 29 November 1926 KYLSANT NOW LEADS IN WORLD SHIPPING trawsysgrifiad ar :- http://www.encyclopedia-titanica.org/forums/white-star-officials-officers-etc/25487-owen-cosby-philipps-lord-kylsant.html adalwyd 29 Ionawr 2015</ref>