Owen Cosby Philipps: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 29:
==Achos Llys a Charchariad==
[[File:RMSPC.jpg|220px|thumb|Hysbyseb mordaith gan y RMSPC]]
Cafodd y mwyafrif o longau Grŵp y Royal Mail eu defnyddio gan y Llynges yn ystod y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] a chollwyd dros gant ohonynt. Ar ôl y Rhyfel ceisiodd Phillips i wneud yn iawn am y colledion ar frys a thrwy hynny talodd llawer gormod am ei longau newydd. Roedd longllong newydd ym 1919 yn costio dros bedair gwaith yr hyn y byddai'n costio ym 1921. Achosodd hyn trafferthion ariannol i'r cwmni. Oherwydd strwythur grŵp cwmni llongau'r Post Brenhinol a natur unbenaethol Phillips fel rheolwr daeth y trafferthion ddim i'r amlwg yn syth. Roedd llawer o draws berchenogaeth yn bodoli yn y grŵp, gyda chwmnïau yn eiddo ar gyfranddaliadau cwmnïau eraill o fewn y grŵp; golygai hyn bod arian yn cael ei symud o gwmpas y grŵp mewn modd a oedd yn creu'r cam argraff bod amgylchiadau arianol y grŵp yn llawer iachach nag oeddynt mewn gwirionedd.
 
Wedi 1926 wynebai'r cwmni anawsterau wrth ad-dalu benthyciadau'r llywodraeth ar y dyddiad dyledus. Ym 1928 gwnaeth y cwmni cais i estyn dyled i Fanc y Midland a oedd yn cael ei warantu gan y llywodraeth am gyfnod o bum mlynedd, gwrthodwyd y cais. Yr oedd llawer o stoc y cwmni yn cael ei gyhoeddi fel dyledeb gyda gwarant o log o 5% pob blwyddyn ar werth y stoc; Arglwydd Tyddewi, brawd Kylystan, oedd yn gwarantu'r taliad yna o 5%. Yn dilyn gwrthod y cais am estyn dyled y Midland gwnaeth Arglwydd Tyddewi cais i drafod sefyllfa'r cwmni gyda'i harchwilwyr, gwrthodwyd y cynnig; er gwaethaf hyn cynigiodd y cwmni dyledebion ychwanegol gwerth £2 miliwn ar warant Tyddewi heb ymgynghori ag ef. Pan ddaeth hyn i sylw'r cyhoedd ym 1929 plymiodd gwerth y cwmni a dechreuwyd amau ei sefydlogrwydd.