Vincent van Gogh: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 22:
[[Delwedd:Vincent Willem van Gogh 128.jpg|bawd|200px|de|Mae ei gyfres o luniau o flodau'r haul ymysg ei waith enwocaf]]
 
==Salwch meddwl==
Roedd rhyw fath o salwch meddwl arno. Yn ystod un o'i byliau, torrodd labed ei glust i ffwrdd. Dirywiodd ei gyflwr meddyliol tua diwedd ei oes. Ar [[27 Gorffennaf|y seithfed ar hugain o Orffennaf]] [[1890]], fe'i saethodd ei hun yn ei frest. Bu farw yn ei wely ddeuddydd yn ddiweddarach, a Theo ei frawd wrth erchwyn ei wely. Roedd Theo wedi ceisio codi ei galon bod dyddiau gwell i dddod, ond geiriau olaf Vincent cyn marw oedd "''La tristesse durera toujours''" (fe bery'r tristwch am byth).
 
==Gwaith==
Cynhyrchodd Vincent ei holl waith, dros 2000 o weithiau i gyd gan gynnwys paentiadau a brasluniau, mewn deng mlynedd (tua 900 o beintiadau a thua 1100 o ddarluniau a brasluniau). I gychwyn, roedd ei luniau'n dywyll eu lliw, nes iddo ddarganfod gwaith yr argraffiadwyr ym [[Paris|Mharis]]. Daw mwyafrif ei luniau enwocaf o ddwy flynedd olaf ei fywyd, a gwnaeth 90 o luniau yn y deufis olaf. Roedd ei enwogrwydd wedi tyfu'n raddol ers ei arddangosfeydd cyntaf o 1880 ymlaen, ac wedi ei farwolaeth bu arddangosfeydd coffa iddo ym mhrif ddinasoedd Ewrop.
 
==Dylanwad==
Bu ei ddylanwad ar gelf yr ugeinfed ganrif yn enfawr, yn arbennig artistiaid [[mynegiadaeth|mynegiadol]] a'r(expressionist) [[ffofyddiaeth|ffofyddion]]ac arlunwyr 'Fauve'. Erbyn hyn, mae ei waith ymysg y gwaith celf enwocaf, y mwyaf poblogaidd a'r drytaf erioed.
 
<gallery>