Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Édouard Manet"

Ychwanegwyd 10 beit ,  6 blynedd yn ôl
dim crynodeb golygu
Achosodd ei weithiau enwog cynnar '' Le Déjeuner sur l'herbe (Picnic ar y Gwair)'' ac ''Olympia'' gryn syndod pan arddangoswyd yn gyntaf. Yn ddiweddarach roedd y gweithiau yma'n hynod o bwysig yn natblygiad celf fodern gan ddylanwadu’n fawr y cenedlaethau nesaf o arlunwyr.
 
Wedi'i geni a magu ym [[Paris|Mharis]], yn fab i deulu cyfoethog. Fe'i hyfforddodd gyda Thomas Couture. Roedd ei waith yn seiliedig ar y chwarae rhwng cysgod a golau, gyda nifer cyfyngedig o liwiau gan wneud defnydd pwysig o ddu. Bu hefyd yn peintio'n syth o'r model. Roedd gwaith yr arlunydd Sbaeneg [[Diego Velázquez]] (1599-1660) yn ddylanwad mawr ar ei steil.
Ym Mharis fe gymysgodd gydag ysgrifenwyr avant-garde, yn fwyaf nodweddiadol gyda [[Baudelaire]] a ymddangosodd yn ei ddarlun ''Y Gerddoriaeth yng Ngerddi Tuileries''. Daeth ei waith yn enwog trwy 'Salon des Refusés', arddangosfa o ddarluniau a wrthodwyd gan y sefydliad Salon swyddogol.
Defnyddiwr anhysbys