John Rhŷs: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Pluen1990 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
cofeb
Llinell 1:
[[Delwedd:John Rhys.JPG|250px|bawd|John Rhŷs, tua 1890]]
Ysgolhaig [[Cymraeg]] a [[Celtiaid|Cheltaidd]] oedd '''John Rhŷs''' (ei orgraff arferol ei hun) neu '''John Rhys''' ([[21 Mehefin]], [[1840]] - [[17 Rhagfyr]], [[1915]]), a aned ger [[Ponterwyd]], [[Ceredigion]]. Roedd yn un o'r ysgolheigion Celtaidd a golygyddion testunau [[Cymraeg Canol]] gorau ei ddydd.
 
==Hanes==
[[Delwedd:John Rhys.JPG|250px|bawd|John Rhŷs, tua 1890]]
Graddiodd Rhŷs ym [[Prifysgol Rhydychen|Mhrifysgol Rhydychen]] gydag anrhydedd yn y [[Clasur]]on yn [[1869]]. Ar ôl treulio cyfnod o astudio tramor a gweithio fel arolygydd ysgol yn yr hen [[Sir y Fflint]] fe'i penodwyd yn Athro [[Celteg]] cyntaf ei hen brifysgol yn [[1877]]. Yn [[1895]] daeth yn brifathro [[Coleg yr Iesu, Rhydychen|Coleg Iesu]] yno. Chwaraeodd ran bwysig ym mywyd Cymreig y brifysgol gan gynnwys bod yn llywydd cyntaf [[Cymdeithas Dafydd ap Gwilym]] ([[1886]]).
 
==Ysgolheictod==
[[Image:John Rhys' grave in Holywell Cemetery.jpg|bawd|300px|chwith|"Er cof am '''John Rhys''' D:Litt: P:C: F:B:A: Prifathro Coleg yr Iesu ac Athro Astudiaethau Celtaidd. Ganwyd 21 Mehefin 1840 a bu farw 17 Rhagfyr 1915 ac er cof am Elsbeth [sic] ei wraig a anwyd 26 Mai 1841 ac a fu farw 29 Ebrill 1911."'' (Mynwent Holywell, Rhydychen.)]]
Daeth i adnabod Syr [[John Morris-Jones]] yn Rhydychen a gweithiasant gyda'i gilydd ar olygiad o ''[[Llyfr yr Ancr|Lyfr yr Ancr]]''. Roedd yn ieithydd penigamp; ei gyfrol ''Lectures on Welsh Philology'' (1877) oedd y gwaith cyntaf i ddefnyddio dulliau newydd [[ieithyddiaeth]] gymharol i astudio hanes yr iaith Gymraeg. Gweithiodd ar y cyd â [[John Gwenogvryn Evans]] i olygu cyfres bwysig o destunau [[Cymraeg Canol]], gan gynnwys [[Llyfr Coch Hergest]] a [[Llyfr Llandaf]].