Breuddwyd Macsen Wledig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Y Chwedl: Sut yn y byd y gall hanesyn fod yn 'onomatopoïg'?
Llinell 5:
Ymrennir y chwedl yn ddwy ran. Yn y rhan gyntaf ceir hanes breuddwyd Macsen a'r hyn a deilliodd ohoni ac yn yr ail ran, sy'n llai boddhaol o safbwynt llenyddol, ceir sawl traddodiad am Facsen, Elen, a'r [[Brythoniaid]], wedi'u plethu ynghyd.
 
Egyr y chwedl gyda Macsen Wledig, [[Ymerawdwr Rhufain]], yn mynd i hela mewn dyffryn ger [[Rhufain]] er mwyn diddanu "deuddeg brenin ar ugain o frenhinoedd coronog" sy'n ddeiliaid iddo. Ond does ganddo ddim llawer o awydd i hela, ac mae'n ymneilltuo i lecyn tawel i orffwys am ganol dydd. Gesyd ei osgordd eu tariannau drosto i'w cysgodigysgodi ac mae'n syrthio i gysgu. Yn ei freuddwyd mae'n cael gweledigaeth ryfedd. Mae'n teithio dros yr [[Alpau]], trwy [[Gâl]] a thros y [[Môr Udd]] i [[Ynys Brydain]]. Yna mae'n cerdded i ogledd-orllewin yr ynys a gweld caer ysblennydd wrth aber gyda mynyddoedd gwyllt a choed y tu ôl iddi ac ynys ffrwythlon gyferbyn. Eiff i mewn i neuadd y gaer a gweld gweision yn chwarae [[gwyddbwyll]] a'r forwyn decaf erioed yn eistedd ar orsedd orwych. Mae hi'n codi ac yn dod ato ac mae'n rhoi ei freichiau am ei gwddw. Wrth iddo eistedd gyda hi ar yr orsedd ac ymserchu ynddi, mae twrw'r tariannau'n ymysgwyd yn y gwynt yn ei ddeffro ac mae'r weledigaeth yn diflannudarfod amdani.
 
Ni all yr ymerawdwr fyw heb gael gwybod pwy oedd y forwyn a lle y trigai. Mae'n anfon negeseuwyr allan i bedair ban byd ond dychwelant heb newydd amdani. CaentCânt eu hanfon yr ail dro. Croesant yr Alpau eto a dilyn cyfarwyddyd Macsen i gyrraedd y gaer a gofyn i'r forwyn briodi Macsen. Mae'r forwyn yn gwrthod oni bai'r ymerawdwr ei hun yn dod i'w cheisio. A dyna a wna Macsen a'i wŷr. Glaniant ym Mhrydain a goresgyn yr ynys gan yrru [[Beli fab Manogan]] a'i wŷr ar ffo. [[Elen Luyddog|Elen]] yw'r ferch ac mae hi'n byw gyda'i thad [[Eudaf]] a'i frodyr [[Cynan Meiriadog|Cynan]] ac Adeon yng [[Segontiwm|Nghaer Seint]] yn [[Arfon]]. Y noson gyntaf honno mae Macsen ac Elen yn cysgu a'i gilydd.
 
Yn ail ran y chwedl ceir hanesion cymysg, rhai ohonynt yn onomatopoïg, yn esbonio sut yr adeiladwyd [[Sarn Helen]] a ffyrdd Rhufeinig eraill, sut y cafodd mynydd y Frenni Fawr ei enw, sut y cododd gaer fawr yng nghanol [[Eryri]] ([[Dinas Emrys]] efallai), a.y.y.b. Mae'n gorffen gyda hanesyn am ymerawdwr newydd yn Rhufain - mae Macsen wedi bod i ffwrdd am dros saith mlynedd, yn groes i ddeddfau Rhufain - sy'n herio Macsen i gadw draw. Ond dychwela i Rufain gydag Elen lle mae'n gwarchae'r ddinas am flwyddyn, yn aflwyddianus. Yna daw brodyr Elen a chriw o ryfelwyr Arfon i gipio'r ddinas a'i adfer i Facsen. Yn ddiolch iddynt, mae Macsen yn caniatau iddynt grwydro ac oresgyn tir fel y mynnant. Ar ôl blynyddoedd o grwydro ar y cyfandir cyrhaeddant [[Llydaw]]. Mae hanner y llu yn dychwelyd i Gymru gyda Adeon a'r lleill yn aros i drigiannu Llydaw dan Cynan ([[Cynan Meiriadog]]).
 
==Cefndir==