Rhyfel Irac: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion; gorffennol
Ymchwiliad
Llinell 33:
Roedd y gwrthryfelwyr yn cynnwys cyn-aelodau o'r [[Plaid Baath Irac|Blaid Baath]] a chefnogwyr Saddam Hussein, grwpiau [[Sunni]], a grwpiau [[Shia]] fel [[Byddin y Mahdi]] dan arweinyddiaeth [[Muqtada al-Sadr]]. Cymhlethwyd y sefyflla gan y ffaith fod y grwpiau hyn yn tueddu i fod yn elyniaethus i'w gilydd, yn arbennig y Baathiaid a'r grwpiau Sunni ar y naill law a'r grwpiau Shia ar y llaw arall. Credir yn ogystal fod nifer o dramorwyr yn y wlad, rhai ohonyn nhw'n ymladd gyda'r grwpiau uchod ac eraill yn perthyn i grwpiau [[terfysg]]ol gan gynnwys [[Al Qaeda]] a grwpiau sy'n gweithredu yn enw y mudiad terfysgol hwnnw.
 
=== GwrthdaroCyfiawnhau'r ethnig ac enwadolrhyfel ===
Yn ystod y rhyfel, protestiodd miliynau o bobl yn erbyn y rhyfel yn [[Llundain]] a thrwy'r byd gan ddod i'w hanterth yn Chwefror 2003; ond ni chafwyd effaith ar arweinwyr yr UDA, Prydain na gwledydd eraill y Cynghreiriaid.<ref>{{dyf new|dyddiad=[[12 Ebrill]], [[2003]]|teitl=Protest yn erbyn y rhyfel|cyhoeddwr=[[BBC]]|url=http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_2940000/newsid_2942800/2942889.stm}}</ref> Un o'r prif resymau dros benderfyniad [[Tony Blair]] dros fynd i'r Rhyfel oedd ei honiad fod gan Irac y gallu i ymosod gyda chemegau gwenwynig ar Brydain, gyda dim ond 45 munud o rybydd.
 
Ar 15 Mehefin 2009 cyhoeddodd Prif Weinidog Prydain, [[Gordon Brown]], ymchwiliad i'r hyn a arweiniodd i'r Rhyfel gan gynnwys y 'rhesyma' a'r dystiolaeth a oedd ar gael i wneud y penderfyniad o fynd i'r rhyfel, 'er mwyn dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol'. Gelwir yr ymchwiliad hwn yn [[Ymchwiliad Chilcot i Ryfel Irac]] a chychwynwyd ar y gwaith ar 24 Tachwedd 2009.
 
 
== Cost y rhyfel ==