Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "John Evans (I. D. Ffraid)"

Ychwanegwyd 155 beit ,  6 blynedd yn ôl
dim crynodeb golygu
[[File:Revd John Evans (I D Ffraid or Adda Jones, 1814-75) NLW3364082.jpg|thumb|Parch John Evans (I D Ffraid neu Adda Jones, 1814-75) NLW3364082]]
[[Geiriadur]]wr a chyfieithydd [[Cymry|Cymreig]] oedd '''John Evans''' ([[23 Gorffennaf]] [[1814]] - [[4 Mawrth]] [[1875]]), sy'n fwy adnabyddus wrth ei lysenw '''I. D. Ffraid''' (hefyd: '''Adda Jones''').<ref name="Cydymaith">Meic Stephens (gol.), ''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru''</ref>
 
==Bywgraffiad==
 
[[File:Bedd I D Ffraid Eglwys San Ffraid Glan Conwy.jpg|thumb|Bedd I D Ffraid Eglwys San Ffraid Glan Conwy]]
Ganwyd John Evans yn y Tŷ Mawr [[Llansanffraid Glan Conwy]] ar 23 Gorffennaf 1814 yn fab hynaf i David Evans, siopwr, a Grace (neé Roberts) ei wraig. Cafodd ei fedyddio yn Eglwys y plwyf ar 27in o'r un mis.<ref>Cofnodion bedydd plwyf Llansanffraid blwyddyn 1814 rhif 54 (yng ngofal Archifdy Sir Ddinbych)</ref>. Cafodd rhywfaint o addysg yn ysgol Thomas Hughes [[Abergele]] yn ystod 1824 ond erbyn 1825 yr oedd wedi ddychwelyd i Lansanffraid i weithio yn siop ei ewythr. Ym 1830 fe fu am dymor yn ddisgybl yn ysgol y Parch John Hughes yn [[Wrecsam]], ysgol oedd yn rhoi rhywfaint o hyfforddiant i ddarpar weinidogion Methodistaidd yn y cyfnod cyn bod gan yr enwad athrofa swyddogol,<ref>[http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3200933/ART26 MARWOLAETH Y PARCH JOHN T EVANS (I. D. FFRAID) yn Seren Cymru 19 Mawrth 1875 ] adalwyd 19 Chwef 2014</ref> ond ni ddechreuodd pregethu tan 1840. Cafodd ei ordeinio yn weinidog gyda'r [[Methodistiaid Calfinaidd]] ym 1853 (er na fu'n weinidog ar gapel erioed).
 
Priododd am y tro cyntaf ar y 9fed o Dachwedd 1836 ag Ann Williams a bu iddynt chwech o blant. Bu farw Ann ym 1850. Fe briododd am yr ail waith a Hanna (1812-1896) ym 1853.<ref>[http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3452164/ART51 Genedigaethau, Priodasau, Marwolaethau yn Y Cymro 11 Mehefin 1896] adalwyd 19 Chwef 2014</ref>
 
[[File:Bedd I D Ffraid Eglwys San Ffraid Glan Conwy.jpg|thumb|chwith|Bedd I D Ffraid Eglwys San Ffraid Glan Conwy]]
Bu farw ar 4ydd Mawrth 1875 yn ei gartref yn Llansanffraid Glan Conwy a chladdwyd ei weddillion ym mynwent eglwys y plwyf<ref>Cofrestr Claddu Llansanffraid Glan Conwy tudalen 39 Rhif 311(yng ngofal Archifdy Sir Ddimbych)</ref>. Cafwyd tanysgrifiad cenedlaethol o dan arweinyddiaeth [[Thomas Gee]] i godi cofadail ar ei fedd.<ref>[http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3288116/ART20 The late I D Ffraid yn y Llangollen Advertiser, Denbighshire, Merionethshire, and North Wales Journal 19 Mawrth 1875 ] adalwyd 19 Chwef 2014</ref>