Cyfathrach rywiol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
enw person
Llinell 11:
 
== Atgenhedlu rhywiol ==
Cyfathrach rywiol faginaidd yw'r modd sylfaenol o atgenhedlu ymysg [[bod dynol|bodau dynol]]. Mae'n arwain at [[alldafliad]], lle mae cyfangiad nifer o [[cyhyr|gyhyrau]] cludo [[semen]] o'r pidyn i gromgell y fagina (fel arfer, mae'r dyn yn cael [[orgasm]] wrth i hyn ddigwydd). Mae'r semen yn cynnwys miliynau o gelloedd [[sberm]], y [[gamet]]au gwrywaidd. Gall sberm nofio wefyn trwy [[Ceg y groch|geg y groth]] i'r groth, ac o'r groth i'r [[tiwbiau ffalopaiddFfalopaidd]]. Os yw'r ddynes yn cael orgasm wrth i'r dyn alldaflu, neu'n fuan wedyn, fe all y lleihad dros dro yn maint y fagina, a chyfyngiadau cyhyrol yn y groth, yn cynorthwyo i'r sberm cyrraedd y tiwbiau ffalopaidd (er hynny, mae'n bosib i ddynes mynd yn feichiog heb iddi gael orgasm). Os yw [[ŵygell]] ffrwythlon (gamet benywaidd) yn bresennol yn y tiwbiau ffalopaidd, mae'r sberm yn uno â hi, proses o'r enw [[ffrwythloniad]] sy'n creu [[embryo]] newydd. Pan mae embryo o'r fath yn mewnblannu ar fur y groth, mae'r ddynes yn [[beichiogrwydd|feichiog]]. Mae beichiogrwydd yn parhau am dua naw mis, ac yna mae [[plentyn]] yn cael ei eni.
 
Os yw'r dyn a'r ddynes yn ffrwythlon, mae beichiogrwydd pob tro yn ganlyniad posib i gyfathrach rywiol. Gellir defnyddio dulliau effeithlon o [[atal-cenhedlu]] i osgoi hyn.