Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
delwedd
Llinell 1:
[[Delwedd:University of Wales Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies 03.JPG|bawd|Y ganolfan, gyda cherflun o Edward Llwyd o'i flaen]]
Canolfan ymchwil [[Cymru|Cymreig]] a [[Celtiaid|Cheltaidd]] yw '''Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru''', a leolir ar safle ger [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]] yn [[Aberystwyth]], [[Ceredigion]]. Mae'n rhan o [[Prifysgol Cymru|Brifysgol Cymru]]. Mae'n "cynnal prosiectau cydweithredol ar iaith, llên a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill."<ref>[http://www.cymru.ac.uk/cy/YGanolfanGeltaidd/CyflwyniadGanolfan.aspx Cyflwyniad i'r Ganolfan]</ref> Un o brif amcanion y ganolfan yw cyhoeddi holl waith y beirdd Cymraeg canoloesol, yn cynnwys [[Beirdd y Tywysogion]] a [[Beirdd yr Uchelwyr]]. Agorwyd y ganolfan ar 28 Mai, 1993, gan [[Cledwyn Hughes|yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos]].<ref>[http://www.cymru.ac.uk/cy/YGanolfanGeltaidd/EarlyHistoryoftheCentre.aspx Hanes y Ganolfan]</ref> Cyfarwyddwr presennol y ganolfan yw'r Athro [[Dafydd Johnston]].<ref>[http://www.cymru.ac.uk/cy/YGanolfanGeltaidd/StaffPages/StaffDirectory.aspx Staff y Ganolfan]</ref>