David Pugh (AS Caerfyrddin): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Roedd '''David Pugh''' (1806 - 12 Gorffennaf, 1890) yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel [[Aelod Seneddol]] Sir Gaerfyrddin a Gorllewin Caerfyrddin
==Bywyd Personol==
 
Ganwyd David Pugh ym Manorafon, plasty ger Llandeilo, yn blentyn hynaf o dri i'r Cyrnol David Heron Pugh ac Elizabeth Benyon ei wraig.<ref>Annals and antiquities of the counties and county families of Wales [https://archive.org/stream/annalsantiquitie01nich#page/302/mode/2up] adalwyd 16 Chwef 2015</ref>
 
Cafodd ei addysgu yn ysgol Rugby a choleg Balliol, Rhydychen, lle raddiodd BA ym 1828.
 
Yr oedd yn ddibriod.
 
Llinell 10 ⟶ 12:
 
Ei brif waith oedd fel meistr ei ystâd o tua 10,000 erw a'r dyletswyddau cyhoeddus y disgwyliwyd i sgweier o'i radd eu cyflawni yn y cyfnod. Fel amaethwr yr oedd yn cael ei hystyried yn arbenigwr ar fridio gwartheg byrgorn.
 
Fe wasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Gaerfyrddin yn y flwyddyn 1874.
 
Llinell 16 ⟶ 19:
==Gyrfa Wleidyddol==
Ar farwolaeth David Saunders Davies, un o Aelodau Seneddol Ceidwadol Sir Gaerfyrddin ym1857 etholwyd David Pugh i'w olynu yn ddiwrthwynebiad. Roedd ei ymrwymiad gwleidyddol ar adeg yr isetholiad yn amwys. Mae'n cael ei gyfrif fel aelod Rhyddfrydol, gan amlaf, er ei fod wedi derbyn sêl bendith y bonheddwyr Ceidwadol i'w ethol ac yn cael ei ddisgrifio fel un "annibynnol ei farn" yn ei gynhadledd dewis. Cafodd ei ailethol yn ddiwrthwynebiad yn etholiadau Cyffredinol 1859 a 1865. Bu cystadleuaeth yn Sir Gaerfyrddin yn etholiad Cyffredinol 1868 a safodd Pugh fel ymgeisydd Annibynnol gan ddod ar waelod y pôl. Gan mae'r ymgeisydd Rhyddfrydol daeth i'r brig, mae'n bosib y byddai Pugh wedi cadw ei sedd pe bai wedi sefyll dros yr achos Rhyddfrydol.
 
Ail afaelodd yn ei ddiddordebau seneddol ym 1884. Pan geisiodd Tŷ'r Arglwyddi rhwystro cynlluniau William Gladstone i ehangu'r bleidlais cafwyd protest mawr yng Nghaerfyrddin i gefnogi'r Brif Weinidog, ymysg y sawl oedd yn cefnogi'r brotest oedd David Pugh.