Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Stephen Richard Glynne, 9fed Barwnig"

Lleihawyd o 12 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
manion, replaced: Yr oedd → Roedd (3) using AWB
(manion, replaced: Yr oedd → Roedd (3) using AWB)
[[File:Eglwys Sant Deiniol Penarlag St Deiniol Church 01.JPG|bawd|300px|Cofeb Glynne yn Eglwys Sant Deiniol, [[Penarlâg]], [[Sir y Fflint]].]]
Roedd '''Syr Stephen Richard Glynne''', 9fed Barwnig ([[22 Medi]], [[1807]] - [[17 Mehefin]], [[1874]]) yn dirfeddiannwr Gymreig ac yn wleidydd [[Y Blaid Geidwadol (DU)|Ceidwadol]]. Fe'i cofir yn bennaf fel ymchwilydd ym maes yr hynafiaethau gyda diddordeb arbennig mewn pensaernïaeth eglwysig Prydain. Yr oeddRoedd yn frawd-yng-nghyfraith i'r [[Prif Weinidog|Brif Weinidog]] Rhyddfrydol [[William Ewart Gladstone]].<ref>GLYNNE (TEULU), Penarlâg Y Bywgraffiadur arlein [http://yba.llgc.org.uk/cy/c-GLYN-PEN-1603.html] adalwyd 28 Rhagfyr 2014</ref>
 
==Cefndir==
[[File:Sir Stephen Glynne 01.jpeg|thumb|chwith|Syr Stephen Glynne]]
 
Priododd Catherine, chwaer Stephen Glynne, y gwleidydd [[William Ewart Gladstone]]. Daeth tad Gladstone, Syr John Gladstone, i'r adwy, pan achubodd Glynne rhag mynd yn fethdalwr ar ôl methiant gwaith haearn yr oedd yn rhan-berchennog arnynt<ref>THE OAK FARM IRON WORKS -Carnarvon and Denbigh Herald 22 Ionawr 1848 [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3643822/ART7] adalwyd 27 Rhag 2014</ref>. Yr unig fodd iddo gadw [[Penarlâg]] oedd trwy werthu rhan o'r ystâd a chytuno i rannu ei gartref [[Castell Penarlâg (18fed ganrif)|Castell Newydd Penarlâg]] gyda William a Catherine.
 
Bu Glynne farw'n ddibriod, a daeth y farwnigaeth i'w therfyn ar ei farwolaeth. Cafodd ystâd a chastell Penarlâg eu hetifeddu gan ei nai William Henry Gladstone, mab hynaf William a Catherine.
Cafodd Glynne ei addysgu yng [[Coleg Eton|Ngholeg Eton]] a Choleg Christ Church, [[Rhydychen]] gan ennill gradd trydydd dosbarth yn y Clasuron.
 
Bu'n gwasanaethu fel [[Aelod Seneddol]] Ceidwadol [[Bwrdeistrefi Fflint (etholaeth seneddol)|Bwrdistrefi Fflint]] o 1832 i 1837 a [[Sir y Fflint (etholaeth seneddol)|Sir y Fflint]] o 1837 i 1841 ac eto o 1842 i 1847 er na siaradodd erioed mewn dadl yn [[Tŷ'r Cyffredin|Nhŷ'r Cyffredin]]. Bu hefyd yn Uchel Siryf Sir y Fflint ym 1831 ac yn Arglwydd Raglaw Sir y Fflint o 1845 i 1871.
 
Yn ystod ymgyrch etholiadol 1841, daeth Glynne ag achos enllib yn erbyn y ''Chester Chronicle'', wedi i'r papur gyhoeddi honiad ei fod yn [[Cyfunrywioldeb|gyfunrywiol]]. Enillodd yr achos a bu'n rhaid i'r papur ymddiheuro.
 
==Crefydd==
O ran ei ddaliadau crefyddol yr oedd Glynne yn aelod pybyr o [[Eglwys Lloegr]] ac yn elyniaethus i achosion anghydffurfiol. Yr oeddRoedd yn gwrthod caniatáu i anghydffurfwyr gynnal cyfarfodydd o addoliad yn y pentrefi a oedd yn eiddo i'w ystâd. <ref>Court and Aristocracy -Welshman - 4 Mehefin 1841 [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/4345316/ART7] adalwyd 28 Rhagfyr 2014</ref>
 
Er mwyn lleihau apêl y capeli yr oedd Glynne yn credu ei fod yn bwysig i'r Eglwys gynnig gwasanaethau Cymraeg a bu'n ddylanwadol wrth sicrhau bod y Cymro Cymraeg, John Hughes, yn cael ei benodi'n [[Esgob Llanelwy]] ym 1870.
 
==Hynafiaethau ==
Yn codi o'i Anglicanaeth pybyr roedd gan Glynne diddordeb mawr mewn pensaernïaeth eglwysig. Yr oeddRoedd yn aelod o bwyllgor, yn ddiweddarach yn ysgrifennydd mygedol, ac yn y pendraw yn is-lywydd yr ''Ecclesiological Society'' - cymdeithas a oedd yn hybu astudiaethau o bensaernïaeth Gothig ac o hynafiaethau Eglwysig. Ym 1847 bu'n un o olygyddion llyfr a gyhoeddwyd gan y gymdeithas ''Hand-Book of English Ecclesiology.''
 
Yn ystod ei fywyd bu Glynne yn ymweld â dros bum mil o eglwysi gan wneud nodiadau manwl am eu nodweddion pensaernïol<Refref> Cyngor Sir y Fflint - NODIADAU EGLWYSI SYR STEPHEN GLYNNE [http://www.siryfflint.gov.uk/cy/PDFFiles/Records-and-Archives/Source-Guide-No-11-NODIADAU-EGLWYSI-SYR-STEPHEN-GLYNNE.pdf] adalwyd 28 Rhagfyr 2014</ref>. Mae ei nodiadau yn dyddio o 1824 tan ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth ac maent yn cwmpasu eglwysi yng Nghymru, Lloegr ac [[Ynysoedd y Sianel]] ac ychydig yn yr [[Alban]] ac [[Iwerddon]]. Mae ei nodiadau yn parhau i gael eu gwerthfawrogi'n fawr gan haneswyr pensaernïol, gan eu bod yn aml yn rhoi cofnod byr a gwybodus o'r adeiladau fel yr oeddent cyn adferiadau Fictoraidd.
[[Delwedd:Llyfrgell Sant Deiniol and Gladstone's Library Hawarden Penarlâg 35.JPG|bawd|[[Llyfrgell Gladstone]].]]
 
==Marwolaeth ==
 
Bu farw Glynne o drawiad ar y galon y tu allan i orsaf reilffordd Bishopsgate ar 17 Mehefin, 1874 ar ôl ymweld ag eglwysi yn Essex a Suffolk<ref>MARWOLAETH DISYMWTH SYR STEPHEN GLYNNE Llais Y Wlad—26 Mehefin 1874 [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3573398/ART18] adalwyd 28 Tachwedd 2014</ref>. Fe'i claddwyd yn Eglwys Penarlâg. <ref>Y DIWEDDAR SYR STEPHEN GLYNNE Llais Y Wlad—3 Gorffennaf 1874 [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3573413/ART40] adalwyd 28 Tachwedd 2014</ref>
 
==Cyfeiriadau==
{{Teitl Dil|du}}
{{bocs olyniaeth
| cyn=[[ Henry Glynne]]
| teitl=[[Aelod Seneddol]] dros [[Bwrdeistrefi Fflint (etholaeth seneddol)| Bwrdeistrefi Fflint ]]
| blynyddoedd=[[1832]] – [[1837]]
| ar ôl=[[ Charles Whitley Deans Dundas ]]}}
{{Teitl Dil|du}}
{{bocs olyniaeth
{{diwedd-bocs}}
 
{{DEFAULTSORT: Glynne, Syr Stephen Richard }}
[[Categori:Aelodau Seneddol y Deyrnas Unedig]]
[[Categori:Genedigaethau 1807]]
[[Categori:Gwleidyddion Cymreig y 19eg ganrif]]