William Williams (AS Abertawe): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion pitw
manion using AWB
Llinell 1:
Roedd '''William Williams''' ([[13 Tachwedd]] [[1840]] - [[21 Ebrill]] [[1904]]) yn ddiwydiannwr ac yn [[Y Blaid Ryddfrydol (DU)|wleidydd Rhyddfrydol]] Cymreig, yn berchennog gweithfeydd [[tunplat]] ac yn [[Aelod Seneddol]].
 
==Bywyd Personol==
 
Ganwyd William Williams yn [[Treforys|Nhreforys]] yn fab i William Williams, llifwr coed. Priododd Margaret Jeremiah ym 1867, sef merch David Jeremiah, perchennog ffowndri Cwmdu. Cawsant bump o blant gan gynnwys [[Thomas Jeremiah Williams]] AS Abertawe 1915-1919. Bu Margaret farw ym 1893 ac ail briododd William gyda Maria Williams a bu iddynt un ferch.<ref> MR. W. WILLIAMS DEAD LLGC Papurau Cymru ar lein Cambrian 22 Ebrill 1904 [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3347209/ART58] adalwyd 19 Tachwedd 2014</ref>
 
==Gyrfa==
Ni chafodd Williams fawr o addysg ffurfiol ac aeth i weithio yn ffowndri tunplat y Fforest Uchaf yn ifanc iawn. Tra wrth ei waith cafodd ddamwain ddifrifol pan gafodd ei goes ei ddal gan ran o'r peirianwaith a bu'n rhaid ei [[trychu|drychu]]. Aeth yn ôl i weithio i swyddfa'r gwaith fel clerc gan ddangos dealltwriaeth graff o sut yr oedd y busnes yn llwyddo; ar adeg ei briodas yr oedd wedi ei ddyrchafu i swydd rheolwr gwaith tunplat Cwmbwrla<ref>Cofrestr Priodas Eglwys St Iago Abertawe (Gwasanaeth Archifau Cymru) Tystysgrif Priodas Rhif 482</ref>. Trwy briodi merch perchennog gwaith tunplat llwyddodd i ffurfio ei gwmni ei hun: y ''Worcester Tinplate Company'' a ehangodd dros gyfnod trwy brynu siars gweithfeydd eraill gan gynnwys gwaith y Fforest Uchaf lle ddechreuodd ei yrfa.<ref> LOCAL OBITUARY NOTICES. - W. WILLIAMS, MAESYGWERNEN LLGC Papurau Cymru ar lein Weekly Mail 23 Ebrill 1904 [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3376811/ART228] adalwyd 19 Tachwedd 2014</ref>
 
Yn ogystal â'i fusnes tunplat roedd Williams hefyd yn is-gadeirydd Cwmni Bancio Morgannwg ac yn gyfarwyddwr Cwmni Nwy Abertawe.
Llinell 21:
{{Teitl Dil|du}}
{{bocs olyniaeth
| cyn=[[ Henry Hussey Vivian ]]
| teitl=[[Aelod Seneddol]] dros [[Dosbarth Abertawe (etholaeth Seneddol)|, Dosbarth Abertawe]]
| blynyddoedd=[[1893]] – [[1895]]
| ar ôl=[[ David Brynmor Jones ]]}}
{{diwedd-bocs}}
 
{{Authority control}}
 
{{DEFAULTSORT:Williams, William}}
Llinell 33 ⟶ 35:
[[Categori:Marwolaethau 1904]]
[[Categori:Rhyddfrydiaeth]]
 
{{Authority control}}