Roedd ''' Thomas Jeremiah Williams'''' ([[1872]] - [[12 Mehefin]], [[1919]]) yn fargyfreithiwr, yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig ac yn Aelod Seneddol.
==Bywyd Personol==
Yr oeddRoedd Thomas Jeremiah Williams, yn fab i [[William Williams (AS Abertawe)|William Williams]] Aelod Seneddol[[Dosbarth Abertawe (etholaeth Seneddol)|Dosbarth Abertawe]]. Cafodd ei addysgu yn University College School, Llundain, Coleg Technegol Sheffield a Choleg Firth.
Ymbriododd aPriododd Laura Alice Marlow. Ganwyd iddynt un ferch: Gwenith Alice Thomas (nenee Williams) 22/10/1913 - 11/01/2008.
==Gyrfa==
Roedd Williams yn gweithio yn y sector hyfforddiant technegol a masnachol. Yr oeddRoedd yn gyfarwyddwr ar nifer o gwmnïau, yn bennaf yn y diwydiant tunplat, ond hefyd â buddiannau yn y sectorau pwll glo a'r rheilffordd. Cymhwysodd yn fargyfreithiwr ym 1902 gan ymarfer yng Nghylchdaith Cymru a Chaer.<ref>Liberal MP Dead LLGC Papurau Cymru arlein Abergavenny Chronicle 20 Mehefin 1919 [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/4125193/ART25] adalwyd 19 Tach 2014</ref>
==Gyrfa Gwleidyddol==
Safodd Williams yn enw'r [[Y Blaid Ryddfrydol (DU)|Blaid Ryddfrydol]] yn etholaeth [[Gŵyr (etholaeth seneddol)|Gŵyr]] gan gael ei drechu gan ymgeisydd Llafur ym 1906, cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros [[Dosbarth Abertawe (etholaeth Seneddol)|Dosbarth Abertawe]] mewn isetholiad ym 1915 gan ddal y sedd hyd ddiddymu'r sedd ym 1918. Cafodd ei ethol yn AS cyntaf etholaeth newydd [[Dwyrain Abertawe (etholaeth seneddol)|Dwyrain Abertawe]] ym 1918, ond bu farw yn 47 mlwydd oed y flwyddyn ganlynol.<ref>MR. T.J. WILLIAMS M.P. FOR SWANSEA EAST PASSES AWAY TO-DAY LLGC Papurau Cymru Arlein Cambrian Daily Leader 12 Mehefin 1919 [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/4427217/ART63] adalwyd 19 Tach 2014</ref>