Aneirin Karadog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
B teipio
Llinell 4:
Bellach yn byw ym [[Pontyberem|Mhontyberem]], [[Sir Gaerfyrddin|Sir Gâr]], ganwyd Aneirin Karadog yn ybsyty H.M.Stanley [[Llanelwy]] ac fe'i magwyd am ddwy flynedd yn [[Llanrwst]], cyn symud lawr i fyw i [[Pontardawe|Bontardawe]]. Yno y bu tan 1990 pan symudodd ef a'i deulu i [[Pontypridd|Bontypridd]]. Bu'n ddisgybl yn [[Ysgol Gynradd Pont-Siôn-Norton]] ac yna [[Ysgol Gyfun Rhydfelen]] rhwng 1993-2000. Graddiodd wedyn o'r [[Coleg Newydd, Prifysgol Rhydychen]], gyda gradd mewn Ffrangeg a Sbaeneg. Bu'n gweithio am gyfnod gyda [[Menter Iaith Rhondda Cynon Taf]] cyn cael swydd yn llanelli fel ymchwilydd gyda chwmni teledu [[Tinopolis]] yn 2005. Mae wedi cyflwyno ''[[Wedi 7]]'' ac arferai rannu'i amser rhwng y rhaglen ''[[Heno]]'' a ''[[Sam Ar y Sgrin]]'', ar [[S4C]].
 
Enillodd [[Gwobr Emyr Feddyg|Wobr Emyr Feddyg]] yn Eisteddfod Casnewydd 2004 a Chadair yr Urdd yn 2005. Cyhoeddodd gerddi ar y cyd yn y gyfrol Crap Ar Farddoni. Yn eisteddfod Wrecsam 2011 enillodd ar gystadleuaeth Y Delyneg. Ym mis Mawrth 2012 cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi yn unigol: ''O Annwn i Geltia'' (Cyhoeddiadau Barddas). CyfrtannoddCyfrannodd Huw Aaron ugain o luniau a chlawr i'r gyfrol. Enillodd y gyfrol "O Annwn i Geltia" wobr Categori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn. Yn Eisteddfod yr Urdd Boncath, 2013, cyhoeddwyd mai Aneirin yw Bardd Plant Cymru 2013-2015.
 
Bu'n aelod o [[Genod Droog]] a'r [[Diwygiad (grŵp)|Diwygiad]]<ref>{{dyf gwe |url=http://www.literaturewales.org/rhestr-o-awduron/i/131877/ |teitl=Karadog, Aneirin |cyhoeddwr=[[Llenyddiaeth Cymru]] |dyddiadcyrchiad=30 Tachwedd 2012 }}</ref> ac mae wedi cyfrannu i amryw o albymau cerddorol, gyda [[Llwybr Llaethog (band)|Llwybr Llaethog]], [[Cofi Bach]] a [[Tew Shady]]. Ym Mis Mawrth 2012 cyd-greodd a pherfformiodd Aneirin Bx3, sioe farddoniaeth i blant, ar y cyd gydag Eurig Salisbury, Catrin Dafydd a Llyr Bermo.