Wicipedia:Cymorth iaith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 471:
O ran diddordeb, be sy'n bod efo''Yr Oedd'', onid ydyw'n Gymraeg cywir yn ôl ''Y Gymraeg a'i Gystrawen JMJ''? Ac o chwilota yn y geiriaduron mae ''roedd'' (efo collnod) yn cael ei ddisgrifio fel talfyriad o ''yr oedd''. Dydy Cysill dim yn codi ''yr oedd'' fel camgymeriad ieithyddol. Pan oeddwn yn ceisio dysgu'r Gymraeg yn Ysgol y Gader llawer blwyddyn yn ôl, ''yr oeddwn'' yn cael fy meirniadu am ddiogi wrth ysgrifennu ''roedd'' yn hytrach nag ''yr oedd'' a ''mae'n'' yn hytrach na ''mae yn'', pa bryd y penderfynwyd bod JMJ yn anghywir ei gystrawen?
 
Y brif reswm dros gyhoeddi ''Y Gymraeg a'i Gystrawen JMJ'', oedd bod gan bron i bob newyddiadur Cymraeg rheolau cystrawen annibynnol, amhosibl eu dilyn, os oedd dyn am gyfrannu at sawl gyhoeddiad, Y Dydd, Y Goleuad ac ati!<br/>Rwy'n melltithio JMJ am safoni'r Gymraeg ar Gymraeg Môn, llawer gwell pe byddai wedi gwrando ar Gymraeg De Meirionnydd a Gogledd Maldwyn er mwyn cydbwysedd, ond cafwyd safon; safon lle 'roedd ''roedd'' ac ''yr oedd'' yn dderbyniol. Onid oes berygl mynd yn ôl i'r dyddiau du cyn y ''Gymraeg a'i Gystrawen'' trwy greu safon iaith ''golygyddawl, unigawl'' i Wicipedia trwy newid manion megis ''yr oedd ''(Cymraeg cywir) i ''roedd'' (Cymraeg cywir)? (Cwestiwn onest er mwyn dysgu mwy am ddefnydd yr iaith, nid cwestiwn i greu dadl dibwys) 07:12, 18 Chwefror 2015 (UTC)[[Defnyddiwr:AlwynapHuw|AlwynapHuw]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:AlwynapHuw|sgwrs]]) 07:19, 18 Chwefror 2015 (UTC)