Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Dolly Pentreath"

Ychwanegwyd 142 beit ,  6 blynedd yn ôl
manion a del
(Awdurdod)
(manion a del)
[[Delwedd:Dorothy Pentreath.jpg|thumb|right|250px|Dolly Pentreath]]
 
[[Cernyw]]es a ystyrir gan rai y siaradwr uniaith [[Gernyweg]] olaf oedd '''Dolly Pentreath''' (bu farw yn [[Rhagfyr]], [[1777]]). Sail y traddodiad mai'r person olaf i siarad yr iaith fel mamiaith oedd Dolly Pentreath yw adroddiad [[Daines Barrington]] am gyfweliad gyda Dolly. Ond mae tystiolaeth bod rhai siaradwyr brodorol wedi parhau tan y 19eg ganrif, er bod ganddynt wybodaeth o [[Saesneg]] hefyd.
 
Er i Dolly ddweud, yn ôl y chwedl, "''My ny vydn kewsel Sawsnek''!" ("dwi ddim isio siarad Saesneg!"), roedd hi yn gallu ychydig o Saesneg o leiaf. Mae'n bosibl mai'r person olaf i siarad Cernyweg yn unig oedd [[Chesten Marchant]], a fu farw ym [[1676]].
 
Roedd Pentreath yn byw ar hyd ei hoes ym mhlwyf Paul, ger 'Porthynys' (Saesneg: [[Mousehole]]), lle y cafodd ei chladdu hefyd; codwyd cofeb iddi ym mur y llan yn 1860 gan [[Louis Lucien Bonaparte]], nai [[Napoleon Bonaparte|Napoleon]].
[[File:Monument to Dolly Pentreath - geograph.org.uk - 780405.jpg|bawd|chwith|Cofeb iddi gan Louis Lucien Bonaparte]]
 
Heddiw mae sawl person yn siarad y Gernyweg adfywiedig fel mamiaith.