Einir Dafydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
cywiro 'Can' i 'Cân'
Llinell 32:
Yn mis Rhagfyr 2006, rhannodd Einir lwyfan gyda [[Bryn Fôn]] a [[Bryn Terfel]] yng nghyngerdd Nadolig [[Llangollen]] a ddarlledwyd ar S4C.
 
Ym mis Mawrth 2007, daeth Einir i’r brig yng nghystadleuaeth ''CanCân i Gymru'' gyda chân o’r enw “Blwyddyn Mas” - yr alaw wedi'i chyfansoddi ganddi, a’r Prifardd [[Ceri Wyn Jones]] yn gyfrifol am y geiriau.
 
Rhyddhawyd ''Ffeindia Fi'' yn ystod yr haf 2007 ar label [[Rasp]]. Roedd yr EP yn cynnwys 6 o ganeuon - dwy gân gan Caryl Parry Jones, sef “Gwerth y Byd” a “Sibrydion ar y Gwynt”; “Eira Cynnes” a “Blwyddyn Mas” o waith Einir ei hun a Ceri Wyn Jones, a dwy gân gan Ryland Teifi sef “Bachgen Wyt Ti” a’r ddeuawd a ganwyd gan y ddau ar raglen ''C2: Yn y Ciwb'' ar Radio Cymru, ''Ffeindia Fi''.