Rhygyfarch ap Sulien: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
Llinell 2:
 
==Bywgraffiad==
Mab oedd i [[Sulien]], yntau yn ysgolhaig nodedig, yn [[Esgob Tyddewi]], ond yn bennaf yn gysylltiedig â [[clas|chlas]] [[Llanbadarn Fawr]]. Roedd yn frawd i [[Ieuan ap Sulien]].<ref name="D. Simon Evans 1959">D. Simon Evans, ''Buched Dewi'' (Caerdydd, 1959). Rhagymadrodd.</ref>
 
Ysgrifennodd Rhygyfarch y [[llawysgrif]] [[Lladin|Ladin]] ''Sallwyr Rhygyfarch'', sy'n cynnwys cyfieithiad o'r [[Sallwyr]] [[Hebraeg]] a deunydd arall, yn cynnwys penillion gan Rhygyfarch ei hun. Lluniwyd y llawysgrif yn Llanbadarn Fawr tua'r flwyddyn [[1079]]; gwnaethpwyd y llythrennnau lliw gan ei frawd [[Ieuan ap Sulien|Ieuan]]. Cedwir y llawysgrif yn llyfrgell [[Coleg y Drindod, Dulyn]].<ref name="D. Simon Evans 1959"/>