Stephanus o Fysantiwm: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Wedi symud Stephanus o Fysantium i Stephanus o Fysantiwm: wps! "u" yn lle "w"...
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Ysgolhaig [[Groeg]] a daearyddwyrdaearyddwr [[Ymerodraeth Fysantaidd|Bysantaidd]] cynnar oedd '''Stephanus o Fysantiwm''' (fl. [[500]]).
 
Roedd yn enwog fel awdur math o [[gwyddoniadur|wyddoniadur]] [[daearyddiaeth]] mewn mwy na 50 o lyfrau. Roedd yn fath o gydymaith i ddaearyddiaeth y cyfnod a hanes a thraddodiadau'r [[Henfyd]] wedi'i lunio o waith dros gant o awduron clasurol, a oedd yn cynnwys yn ogystal nifer o nodiadau am [[mytholeg|fytholeg]], traddodiadau a hanes dinasoedd ac ardaloedd. Gwnaeth hyn yn fanwl iawn gan ofalu cynnwys ei ffynonellau yn ddiffael.
 
Dim ond drylliau o'r gwaith gwreiddiol anferth sydd wedi goroesi, ynghyd â chrynodeb annigonol gan gramadegydd diweddarach o'r enw Hermolaus, ond mae'r hyn sydd wedi goroesi o werth mawr i haneswyr, er enghraifft am ei ddisgrifiad o [[Pharos Alecsandria]] yn [[Yr Aifft]].