Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Llywarch Hen"

Ychwanegwyd 116 beit ,  6 blynedd yn ôl
ailwampio
(→‎Gweler hefyd: Awdurdod)
(ailwampio)
Aelod o deulu brenhinol [[Rheged]] yn yr [[Hen Ogledd]] a ddaeth yn wrthrych y gadwyn o [[englyn]]ion a elwyd gan [[Ifor Williams]] yn ''[[Canu Llywarch Hen]]'' oedd '''Llywarch Hen''' (fl. diwedd y [[6ed ganrif]]). Mae'n bosibl ei fod wedi olynu [[Urien Rheged]] fel brenin Rheged (bu farw [[Owain fab Urien]] cyn ei dad), ond nid oes sicrwydd am hynny.
 
==Hanes==
Mae dyddiadau geni a marw Llywarch Hen yn anhysbys. Roedd yn gefnder i Urien Rheged, brenin Rheged, ac yn un o ddisgynyddion [[Coel Hen]]. Ychydig iawn a wyddys amdano ar wahân i'r hyn a geir yn nhraddodiadau cynnar [[Cymru]]. Yn yr achau traddodiadol a elwir [[Bonedd Gwŷr y Gogledd]], rhoddir llinach Llywarch Hen fel a ganlyn:
 
Ceir enw Llywarch yn ach y brenin [[Gruffudd ap Cynan]] ar ddechrau ''[[Hanes Gruffudd ap Cynan]]'', a luniwyd yn ail hanner y [[12fed ganrif]], sy'n dangos fod y brenin [[Rhodri Mawr]] yn ddisgynydd uniongyrchol iddo a Choel Hen. Enwir Gwawr ferch [[Brychan]] yn fam Llywarch ac Urien yn y traethawd canoloesol ''De Situ Brecheniauc''.
 
==Traddodiad==
Yn ddiweddarach trawsleolwyd y traddodiadau am Lywarch a'i feibion i [[Teyrnas Powys|Bowys]] a lluniwyd cyfres o englynion lled-hanesyddol, lled-chwedlonol, am ei fywyd. Fe'i portreadir ynddynt fel hen ŵr unig sy'n galaru colli ei 24 mab. Am ei fod yn siarad yn y person cyntaf mewn rhai o'r englynion hyn daethpwyd i ystyried mai ef a'u canodd, ond gwyddys erbyn heddiw eu bod yn gerddi amdano a fu'n rhan o gylch o chwedlau ehangach, efallai. Credir i'r cerddi gael eu cyfansoddi tua chanol y [[9fed ganrif]] gan fardd neu feirdd o Bowys.
Mae'r broses hon o drawsleoli arwyr yr Hen Ogledd i Gymru i'w gweld hefyd yn achos cymeriadau eraill, e.e. [[Taliesin]], [[Gwyddno Garanhir]], [[Myrddin]], ac [[Urien Rheged]] hefyd.
Cyfeirir at Lywarch Hen sawl gwaith yn [[Trioedd Ynys Prydain|Nhrioedd Ynys Prydain]]. Gyda [[Manawydan fab Llyr]] a Gwgon Gwron fab Peredur, mae'n un o 'Dri Lleddf Unben [[Ynys Prydain]]'. Mae'n un o 'Dri Thrwyddedog Llys Arthur, a Thri Anfoddog', gyda Llemenig a [[Heledd]]. Dywedir hefyd ei fod yn un o 'Dri Engiriol Ynys Prydain' (ystyr ''engiriol'' yw "blin, ffyrnig" efallai) ac yn un o'r 'Tri Anfoddog', gyda Heledd a Llemenig eto.<ref>Rachel Bromwich (gol.), ''Trioedd Ynys Prydein'', Trioedd 8, 65, 76, 77.</ref>
 
Ceir sawl lle yng Nghymru a gysylltir â Llywarch Hen a'i feibion. Lleolir beddau rhai o'i feibion ym Mhowys, yn ôl englynion Canu Llywarch Hen. Cysylltir Llywarch ei hun â [[Llanfor]] ym [[Meirionnydd]]; enwirgelwid mwnt[[cylch cerrig]] yno yn [[Pabell Llywarch Hen|Babell Llywarch Hen]]. Yn y 12fed ganrif roedd clawdd ger [[Llyn Syfaddon]] yn adnabyddus fel Clawdd Llywarch Hen.
 
==Cyfeiriadau==
<references/>
 
==Llyfryddiaeth==
*[[Canu Heledd]]
*[[Rheged]]
 
==Cyfeiriadau==
<references/>
 
{{Hen Ogledd}}
 
{{DEFAULTSORT:Llywarch Hen}}
[[Categori:Yr Hen Ogledd]]
[[Categori:Brenhinoedd Rheged]]
[[Categori:Hanes traddodiadol Cymru]]
[[Categori:Genedigaethau'r 6ed ganrif]]
[[Categori:Hanes Powys]]
[[Categori:Hanes traddodiadol Cymru]]
[[Categori:Yr Hen Ogledd]]
 
{{Authority control}}