Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Llywarch Hen"

Ychwanegwyd 222 beit ,  6 blynedd yn ôl
cywiro ac ehangu
(cywiro ac ehangu)
Cyfeirir at Lywarch Hen sawl gwaith yn [[Trioedd Ynys Prydain|Nhrioedd Ynys Prydain]]. Gyda [[Manawydan fab Llyr]] a Gwgon Gwron fab Peredur, mae'n un o 'Dri Lleddf Unben [[Ynys Prydain]]'. Mae'n un o 'Dri Thrwyddedog Llys Arthur, a Thri Anfoddog', gyda Llemenig a [[Heledd]]. Dywedir hefyd ei fod yn un o 'Dri Engiriol Ynys Prydain' (ystyr ''engiriol'' yw "blin, ffyrnig" efallai) ac yn un o'r 'Tri Anfoddog', gyda Heledd a Llemenig eto.<ref>Rachel Bromwich (gol.), ''Trioedd Ynys Prydein'', Trioedd 8, 65, 76, 77.</ref>
 
Ceir sawl lle yng Nghymru a gysylltir â Llywarch Hen a'i feibion. Lleolir beddau rhai o'i feibion ym Mhowys, yn ôl englynion Canu Llywarch Hen. Cysylltir Llywarch ei hun â [[Llanfor]] ym [[Meirionnydd]]; gelwid [[cylch cerrig]] yno, sydd wedi diflannu erbyn hyn, yn [[Pabell Llywarch Hen|Babell Llywarch Hen]] ac roedd mwnt o'r enw 'Castell Llywarch' yno hefyd. Yn y 12fed ganrif roedd clawdd ger [[Llyn Syfaddon]] yn adnabyddus fel 'Clawdd Llywarch Hen'; cofnodir yr enw yn ''[[Llyfr Llandaf]]'' ac fe allai ddyddio o gyfnod cynnar.<ref>Rachel Bromwich (gol.), ''Trioedd Ynys Prydein''.</ref>
 
==Llyfryddiaeth==