Guto Ffowc: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
del
Llinell 3:
 
Ganed Guto yn [[Efrog]], a threuliodd flynyddoedd fel milwr ym myddin [[Sbaen]]. Cyflwynwyd ef i [[Robert Catesby]], arweinydd Cynllwyn y Powdr Gwn, gan y Cymro [[Hugh Owen (cynllwynwyr Catholig)|Hugh Owen]]. Fel milwr profiadol, roedd ei brofiad o bwysigrwydd mawr i lwyddiant yr ymgais. Fodd bynnag, cafwyd hyd i'r powdwr gwn oedd wedi ei osod mewn seler dan y Senedd cyn i Guto gael y cyfle i'w ffrwydro. Daliwyd ef a'r cynllwynwyr eraill a chafodd ei [[artaith|arteithio]], ei gael yn euog o [[Teyrnfradwriaeth|deyrnfradwriaeth]] a'i [[dienyddiad|ddienyddio]] tri mis yn ddiweddarach. Ysgrifennai Ffowc ei enw cyntaf yn ei ffurf [[Eidaleg]] ''Guido'', sy'n rhoi ''Guto'' yn Gymraeg.
[[Delwedd:Children from Bontnewydd, Caernarfon, collecting for the “Guy” (15730938785).jpg|bawd|chwith|Plant o Fontnewydd, Caernarfon yn casglu ''Ceiniog i'r han Guy!''; 1 Tachwedd 1962]]
 
Tan yn ddiweddar iawn arferai plant a phobl ifanc fynd o dŷ i dŷ ddechrau fis Tachwedd gyda ''Guto'' - dymi wedi'i wneud o hen ddillad a gwellt - i hel pres at Noson Guto Ffowc. Ar y noson honno rhoddid y Guto ar ben y [[coelcerth|goelcerth]] a'i losgi.