Gwlff Persia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B newid hen enw, replaced: Bahrain → Bahrein, Emiradau Arabaidd Unedig → Yr Emiradau Arabaidd Unedig, Kuwait → Ciwait, Saudi Arabia → Sawdi Arabia using AWB
dim delwedd
Llinell 3:
Mae '''Gwlff Persia''' ([[Arabeg]]: الخليج الفارسى; [[Perseg]]: خلیج فارس) neu yn aml '''Y Gwlff'''<ref>Jones, Gareth (gol.). ''Yr Atlas Cymraeg Newydd'' (Collins-Longman, 1999), t. 95.</ref> yn estyniad neu [[gwlff]] o [[Cefnfor India|Gefnfor India]] sy'n gwahanu [[Iran]] oddi y gwledydd Arabaidd megis [[Sawdi Arabia]]. Gwledydd eraill sydd ag arfordir ar y Gwlff yw [[Irac]], [[Ciwait]], [[Yr Emiradau Arabaidd Unedig]], [[Qatar]] ac [[Oman]], tra mae [[Bahrein]] yn ynys yn y Gwlff. Oherwydd fod rhan helaeth o [[olew]] y byd yn dod o'r ardal yma, mae o bwysigrwydd strategol eithriadol ac mae nifer o ryfeloedd wedi eu hymladd yma. Heblaw olew, mae Gwlff Persia yn nodedig am ei gyfoeth mewn pysgod a pherlau, ond mae wedi ei ddifrodi i raddau gan y diwydiant olew yn y blynyddoedd diwethaf.
 
[[File:Hors sinus persic mare persicum.JPG|thumb|Bunting H.S.Q34/24CM Hanover,1620 published in iranology fundation2008 page168]]
Mae arwynebedd y Gwlff tua 233,000&nbsp;km². Ar yr ochr ddwyreiniol mae [[Culfor Hormuz]] yn ei gysylltu a [[Gwlff Oman]]. Ar yr ochr orllewinol, mae'r [[Shatt al-Arab]], lle mae [[Afon Ewffrates]] ac [[Afon Tigris]] yn cyrraedd y môr. Nid yw'n ddyfn iawn, tua 90 m. yn y man dyfnaf a thua 50 m. ar gyfartaledd.