Antonín Dvořák: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
ehangu
Llinell 1:
[[Delwedd:Dvorak.jpg|bawd|200px|'''Dvořák''']]
 
Cyfansoddwr [[Gweriniaeth Tsiec|Tsiec]] oedd '''Antonín Leopold Dvořák'''' ({{Sain|Cs-Antonin Dvorak.ogg|ynganiad}}) ([[8 Medi]], [[1841]] – [[1 Mai]], [[1904]]). Gwnaeth ddefnydd helaeth o gerddoriaeth werin [[Morafia]] a'i ardal enedigol [[Bohemia]], yn enwedig eu rhythmau cyfoethog.<ref>Clapham (1995), 765</ref> Ei waith enwocaf, mae'n debyg, yw ei Nawfed Symffoni ('Symffoni'r Byd Newydd' a adnabydir hefyd fel 'O'r Byd Newydd').
 
Cychwynodd ganu'r [[ffidil]] yn chwech oed ac yn 1872 perfformiwyd ei waith yn gyhoeddus am y tro cyntaf ym [[Prag|Mhrag]]. Deisyfodd gydnabyddiaeth a chynulleidfa ehangach, felly cystadleuodd mewn cystadleuaeth yn [[Berlin]], ond nid enillodd (gyda'i symffoni cyntaf) a chollwyd y llawysgrif am rai blynyddoedd. Yn 1874 enillodd gystadleuaeth gyfansoddi Awstraidd ac eto yn 1876 ac 1877, gyda [[Johannes Brahms|Brahms]] yn un o'r beirniaid hyn. Rhoddodd Brahms eirda drosto i'w gyhoeddwr, Simrock, a aeth ati i gomisiynnu'r 'Dawnsfeydd Slavonig Dances, Op. 46 yn ddiymdroi.
{{listen
|filename=Dvorak_S9M2_100501.ogg
|title= Largo – yr Ail Symudiad o Symffoni Rhif 9 Dvořák
|description= Perfformiad gan ''Virtual Philharmonic Orchestra'' (Reinhold Behringer) a rhannau digidol gan ''Garritan Personal Orchestra 4''.
|url= http://www.virtualphilharmonic.co.uk/Dvorak_S9M2.php
| format = [[Ogg]]
}}
 
Yn ystod ei oes sgwennodd gyfanswm o ddeg opera, pob un gyda libreto yn yr iaith Tsiec, gydag ysbryd genedlaetholgar Tsiec yn llifo drwyddynt. Ei waith mwyaf poblogaidd, yn ddi-os, yw ''[[Rusalka]]''. Ystyrir ei seithfed ''[[Humoresque]]'' hefyd yn hynod boblogaidd a'r gân ''Když mne stará matka zpívat učívala'' (Caneuwon a Ddysgodd fy Mam i Mi). Fe'i disgrifiwyd fel "o bosib... cyfansoddwr mwyaf ei oes."<ref name="Taruskin 2010, 754">Taruskin (2010), 754</ref>
 
[[Categori:Cyfansoddwyr Tsiecaidd|Dvořák, Antonín]]
Llinell 7 ⟶ 18:
[[Categori:Marwolaethau 1904|Dvořák, Antonín]]
 
 
{{eginyn cerddoriaeth}}
 
{{Authority control}}