Coedwig Gwydyr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
Llinell 1:
[[Image:View from Gwydir Forest.jpg|bawd|Coedwig Gwydyr, yn edrych tua'r [[Glyderau]] a'r [[Carneddau]].]]
[[File:Cors Bodgynydd Reservoir - geograph.org.uk - 221635.jpg|bawd|[[Llyn Bodgynydd]], Coedwig Gwydry]]
Coedwig yn [[Conwy (sir)|sir Conwy]] yng ngogledd [[Cymru]] yw '''Coedwig Gwydyr''', hefyd '''Coed Gwydyr''', '''Coedwig Gwydir''' a '''Coed Gwydir'''. "Coedwig Gwydyr" yw'r ffurf a ddefnyddir gan y perchenogion, [[Comisiwn Coedwigaeth Cymru]].
 
Mae'r rhan fwyaf o'r goedwig ar lechweddau dwyreiniol [[Eryri]], o gwmpas [[Betws-y-Coed]], ac mae'n ymestyn i'r gogledd cyn belled a phentref [[Trefriw]] ac i'r de i gyffiniau [[Penmachno]]. O'r arwynebedd o 72.5 km sgwar, mae tua 49 km sgwar yn goedwig gynhyrchiol. Mae rhwng 700 a 1000 o droedfeddi uwch lefel y môr. Dechreuwyd plannu'r goedwig yn 1921, a cheir nifer o rywogaethau o goed bytholwyrdd yno.
 
==Llynnoedd==
[[File:Cors Bodgynydd Reservoir - geograph.org.uk - 221635.jpg|bawd|[[Llyn Bodgynydd]], Coedwig Gwydry]]
Ceir cryn nifer o lynnoedd yn y goedwig:
 
Llinell 19 ⟶ 20:
* [[Llyn Tynymynydd]] (1 acer)
 
==Hanes a natur==
Ar un adeg roedd cryn dipyn o fwyngloddio am [[plwm|Blwm]] a [[sinc]] yn yr ardal, ac mae gweddillion nifer o'r hen fwyngloddiau i'w gweld. Crwwyd "Llwybr y Mwynwyr" i gysylltu pedair ohonynt, Parc. Hafna, Llanrwst a Cyffty.
 
Ceir nifer o blanhigion prin yn y fforest, yn enwedig o gwmpas yr hen fwyngloddiau, ac mae hefyd dystiolaeth fod y [[Bele]] yn dal i fyw yn y goedwig.
 
==Gwydir==
Ceir sawl ffurf ar yr enw 'Gwydir', yn cynnwys 'Gwydyr' a 'Gwyder'. Nid yw'r ansicrwydd am y ffurf gywir yn rhywbeth newydd. Ar ddiwedd llythyr at [[Evan Evans (Ieuan Fardd)|Ieuan Fardd]] a ysgrifenwyd yn [[1767]], mae'r hynafiaethydd [[Richard Morris]] ((1703 - 1779), un o [[Morysiaid Môn|Forysiaid Môn]], yn dweud "''Rhowch fy ngharedigol orchymyn at y Cyfaill mwyn Mr. Williams o'' Wedyr ''ynte'' Gwydyr, Gwydir, Gwydr, Gwaedir, Gwaederw ''etc. etc. Pa un yw'r goreu?''".<ref>Hugh Owen (gol.), ''Additional Letters of the Morrisses of Anglesey (1735-1786)'', Cyfrol II (Trafodion [[Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion]], Llundain, 1949).</ref>
 
==Llyfryddiaeth==
* Shaw, Donald L. ''Gwydyr Forest in Snowdonia: a history'' (Cyfres Forestry Commission Booklet ; no.28, H.M.S.O., 1971) ISBN 0117100102
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
==Gweler hefyd==
*[[Castell Gwydir]]
 
[[Categori:Coedwigoedd Conwy|Gwydyr]]