Hanes Taliesin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
ailwampio
Llinell 1:
{{Mytholeg Geltaidd}}
Chwedl Gymreig yn dyddio o'r Canol Oesoedd yw '''Hanes Taliesin''' (hefyd weithiau "'''Chwedl Taliesin'''"). Fe'i ceir yn ei ffurf gyflawngyflawnaf gan [[Elis Gruffydd]] yn y [[16eg ganrif]] dan yr enw '''''Ystoria Taliesin''''', ond credai Syr [[Ifor Williams]] y gallai'r gwreiddiol fod yn dyddio o'r [[9fed ganrif|9fed]] neu'r [[10fed ganrif]]. Mae'n rhoi hanes am y bardd [[Taliesin Ben Beirdd|Taliesin]].
 
==Crynodeb o'r chwedl==
Yn ôl y chwedl, roedd gan [[Ceridwen]] a'i gŵr Tegid Foel ddau blentyn. Roedd y ferch, [[Creirwy]], yn arbennig o hardd, ond roedd y mab, Morfran ap Tegid, yn eithriadol o hyll. Gan ei fod mor hyll, penderfynodd Ceridwen y byddai'n rhoi "awen a gwybodaeth" iddo i wneud iawn am hynny. Bu'n berwi pair gydag amrywiaeth o lysiau am flwyddyn a diwrnod, gyda'r bwriad fod Morfan yn ei yfed ac yn cael yr awen. Roedd hen ŵr dall o'r enw Morda yn cadw'r tân dan y pair, a Gwion Bach yn gofalu am y pair.
 
Llinell 9 ⟶ 10:
Wedi bwyta Gwion beichiogodd Ceridwen, a naw mis yn ddiweddarach ganwyd plentyn iddi. Gwyddai Ceridwen mai Gwion Bach oedd y plentyn, ond roedd mor dlws fel na allai ei ladd. Gosododd ef mewn cwdyn o groen a'i daflu i'r môr.
 
[[Delwedd:Taliesin gored(Guest).JPG|250px|bawd|chwithdde|Elffin yn darganfod Taliesin yng Nghored Wyddno - darlun rhamantus a gyhoeddwyd yn argraffiad 1877 o ''[[Mabinogion]]'' yr Arglwyddes [[Charlotte Guest]]]]
 
Yr oedd gored bysgod yn eiddo i [[Gwyddno Garanhir]] ar y traeth rhwng [[Afon Dyfi]] ac [[Aberystwyth]], a cheid gwerth can punt o bysgod yn y gored yma bob Calan Mai. Roedd un o feibion Gwyddno, [[Elffin]], yn nodedig am ei anlwc, felly rhoes Gwyddno yr hawl iddo i dynny'r gored ar Galan Mai y flwyddyn honno, yn y gobaith y byddai ei ffawd yn newid. Pan aeth Elffin i dynnu'r gored, nid oedd dim ynddi ond y cwdyn lledr yn cynnwys y baban. Cododd Elffin y baban a dywedodd wrth ei was "Llyma dal iesin" ('Dyma dalcen teg'): "Taliesin bid!" atebodd y baban.<ref>P.K. Ford (gol.), ''Ystorya Taliesin'' (Caerdydd, 1992), t. 69.</ref> Canodd y baban gerdd iddo, 'Dihuddiant Elffin,' a oedd ymhlith y cerddi mwyaf adnabyddus yn yr Oesoedd Canol Diweddar. Mae'n dechrau gyda'r pennill
Llinell 19 ⟶ 20:
Aeth Elffin ag ef adref i'w fagu gan ei wraig. Yn ddiweddarch mae Elffin yn mynd a Thaliesin i lys [[Maelgwn Gwynedd]] yn [[Deganwy|Neganwy]], lle mae'n ennill gornest yn erbyn beirdd Maelgwn ac yn achub Elffin o garchar.
 
== Cyfatebiaethau Gwyddelig ==
Ceir hanes tebyg iawn ym [[Mytholeg Iwerddon]] am yr arwr [[Fionn mac Cumhaill]]. Pan oedd yn ieuanc bu Fionn yn ddisgybl i'r bardd a [[derwydd]] [[Finn Eces]] neu Finnegas, ger [[Afon Boyne]]. Treuliodd Finneces saith mlynedd yn ceisio dal "eog doethineb", oedd yn byw mewn pwll yn yr afon. Byddai'r sawl a fwytai'r eog yma yn berchen ar yr holl wybodaeth yn y byd. Yn y diwedd, daliodd Finneces yr eog a gorchymynodd i Fionn ei goginio iddo. Wrth wneud, llosgodd Fionn ei fawd ar yr eog, a rhoddodd ei fawd yn ei geg, gan lyncu darn o groen yr eog, gan ddod yn berchen yr holl wybodaeth yn lle ei feistr.
 
== Llyfryddiaeth ==
* Patrick K. Ford (gol.), ''Ystoria Taliesin'' ([[Gwasg Prifysgol Cymru]], Caerdydd, 1992). Testunau golygiedig.
* Ifor Williams, ''Chwedl Taliesin'' (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1957). Astudiaeth.
 
== Cyfeiriadau ==
{{Cyfeiriadau}}
 
==Gweler hefyd==
== Llyfryddiaeth ==
*[[Taliesin|Canu Taliesin]]
* Patrick K. Ford, ''Ystoria Taliesin'' (Caerdydd, 1992)
*[[Llên gwerin Cymru]]
* Ifor Williams, ''Chwedl Taliesin'' (Caerdydd, 1957)
*[[Taliesin Ben Beirdd]]
*[[Yr Hengerdd]]
 
[[Categori:Mytholeg Geltaidd]]