Love Jones-Parry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 15:
==Y Wladfa==
Yn niwedd [[1862]] aeth Capten Love Jones-Parry gyda [[Lewis Jones (Patagonia)|Lewis Jones]] i Batagonia i weld a oedd yn addas ar gyfer ymfudwyr Cymreig. Ariannwyd hyn yn bennaf gan Jones-Parry, a dalodd o leiaf £750 o'i boced ei hun. Cyraeddasant mewn llong fechan o’r enw "Candelaria", a gyrrwyd hwy gan storm i fae a enwyd ganddynt yn "Borth Madryn" ar ôl cartref Jones-Parry. Heddiw gelwir y dref a dyfodd gerllaw’r man y glaniodd y ddau yn [[Puerto Madryn]]. Yn dilyn adroddiad ffafriol gan Jones-Parry a Lewis Jones, hwyliodd mintai o 162 o Gymry yn y [[Mimosa (llong)|Mimosa]] yn [[1865]]. Yn ddiweddarach bu beirniadu fod yr adroddiad wedi rhoi darlun camarweiniol o’r ardal; beirniadaeth ar Lewis Jones yn bennaf yn hytrach na Love Jones-Parry.
 
==Marwolaeth==
Bu farw Syr Love Parry-Jones yn ei gartref [[Plas Madryn]], [[Pwllheli]] ar 18 Rhagfyr 1891 yn 59 mlwydd oed <ref>Cymro (Lerpwl A'r Wyddgrug), 24 Rhagfyr 1891 ''Marwolaeth Syr Love Jones Parry, Barwnig'' [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3450067/ART39] adalwyd 14 Mawrth 2015</ref> a chladdwyd ei weddillion ym mynwent [[Llanbedrog]]. <ref>North Wales Express 1 Ionawr 1892 ''Funeral of Sir Love Jones Parry'' [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3564499/ART33] adalwyd 14 Mawrth 2015</ref>
 
==Llyfryddiaeth==