Dada: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 29:
Wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf symudodd Tristan Tzara a nifer o'r ''Dadawyr'' o'r Swistir i Baris ble roeddent yn ddylanwadol iawn ymlith yr arlunwyr a llenorion avant-garde wrth i syniadaeth Dada cyfrannu at y cynhedlaeth nesaf o fudiadau celf, yn arbennig [[Swrealaeth]]. <ref>''Tristan Tzara 1896–1963", in Susan Salas, Laura Wisner-Broyles, Poetry Criticism, Vol. 27, Gale Group Inc., 2000, eNotes.com; retrieved April 23, 2008</ref>
 
«»===Yr enw ''Dada''===
Mae tarddiad yr enw Dada'n aneglur, rhai yn credu ei fod yn air diystyr. Mae eraill yn mynnu ei fod yn dod o'r iaith [[Rwmaneg]] – y gair am 'ie'. Roedd Tristan Tzara a Marcel Janco'n Rwmaneg a sylwedd ar ei defnydd cyson o 'Da Da' gan eu cyfeillion yn Zurich.
 
Mae eraill yn cyfeirio at hanes y grŵp o arlunwyr yn y Swistir yn dewis y gair ar hap trwy bwyntio cyllell ar eiriadur Ffrangeg – Almaeneg. Y cyllell yn glanio ar 'Dada' - gair plentynnaidd am geffyl pren neu hobi (fel ''hobby horse'' yn Saesneg).<ref>http://www.dadart.com/dadaism/dada/020-history-dada-movement.html</ref>