Peter Bailey Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Cyfeiriadau: Pentrefi a phentrefannau newydd
ehangu
Llinell 1:
Hynafiaethydd a chyfieithydd Cymreig oedd '''Peter Bailey''' (neu '''Bayley''') '''Williams''' (Awst [[1763]] - [[22 Tachwedd]], [[1836]]). Roedd yn fab i'r clerigwr [[Methodistiaeth|Methodistaidd]] ac esboniwr [[Beibl]]aidd dylanwadol [[Peter Williams]] (1723-1796).
 
==Bywgraffiad==
Cafodd ei addysg ym [[Prifysgol Rhydychen|Mhrifysgol Rhydychen]]. Fe'i penodwyd yn berson [[Llanrug]], ger [[Caernarfon]]. Roedd yn gyfaill i'r bardd [[Dafydd Ddu Eryri]] a chododd gofgolofn iddo ym mynwent eglwys y plwyf ar ei farwolaeth yn [[1822]]. Gwasnaethai yn ogystal ym mhlwyf [[Llanberis]].<ref>D. Ambrose Jones, ''Llenyddiaeth a Llenorion Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg'' (Lerpwl, 1922).</ref>
 
Roedd gan Peter Bailey Williams ddiddordeb mawr yn [[Hanes Cymru|hynafiaethau Cymru]] a chyfrannodd nifer o erthyglau ar y pwnc, yn Gymraeg a Saesneg, i gylchgronau'r dydd fel ''[[Y Geirgrawn]]'', ''[[The Cambro-Briton]]'' a'r ''[[Cambrian Quarterly]]''. Cyhoeddodd arweinlyfr Saesneg i'r hen [[Sir Gaernarfon]] yn [[1821]] a ddaeth yn boblogaidd iawn ac sy'n llawn o fanylion gan awdur a garai'r fro a'i hanes.<ref name="Ashton">[[Charles Ashton]], ''Hanes Llenyddiaeth Gymreig o 1650 hyd 1850'' (Lerpwl, 1893).</ref>
 
Fel cyfieithydd cyhoeddodd gyfieithiadau o ddau o lyfrau [[Richard Baxter]] dan y teitlau ''Tragwyddol Orffwysfa'r Saint'' ([[1825]]) a ''Galwad ar yr Annychweledig'' ([[1825]]).<ref>[[Charles name="Ashton]], ''Hanes Llenyddiaeth Gymreig o 1650 hyd 1850'' (Lerpwl, 1893).</ref">
 
==Llyfryddiaeth==
* ''[[The Tourist's Guide through the County of Caernarvon]]'' (Caernarfon, 1821)
* (cyfieithiad) ''Tragwyddol Orffwysfa'r Saint'' (1825)
* (cyfieithiad) ''Galwad ar yr Annychweledig'' (1825)
 
==Cyfeiriadau==
Llinell 12 ⟶ 17:
 
{{DEFAULTSORT:Williams, Peter Bailey}}
[[Categori:Awduron llyfrau taith]]
[[Categori:Cristnogion Cymreig]]
[[Categori:Cyfieithwyr Cymreig]]