Stadiwm Wembley: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'bawd|Stadiwm Wembley Stadiwm pêl-droed cenedlaethol Lloegr yw '''Stadiwm Wembley'''. Fe'i lleolir yn Wembl...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 06:45, 24 Mawrth 2015

Stadiwm pêl-droed cenedlaethol Lloegr yw Stadiwm Wembley. Fe'i lleolir yn Wembley, rhan o fwrdeistref Brent yng ngorllewin Llundain. Cynhelir rownd derfynol Cwpan Lloegr (neu Gwpan yr FA) a gemau cartref tîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr yno.

Stadiwm Wembley

Agorodd y stadiwm presennol, a gynlluniwyd gan y penseiri HOK Sport (a gynlluniodd Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd a Foster and Partners, yn 2007. Saif ar safle stadiwm cynharach a agorwyd yn 1923; dymchwelwyd hwn yn 2003. Tra'r oedd Stadiwm y Mileniwm yn cael ei adeiladu yng Nghaerdydd chwaraewyd gemau cartref tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru yn hen stadiwm Wembley, a thra oedd y stadiwm newydd yn cael ei adeiladu cynhaliwyd rownd derfynol Cwpan yr FA yng Nghaerdydd. Cynhaliwyd gemau pêl-droed Gemau Olympaidd yr Haf 2012 yno hefyd.