Wicipedia:Pwll tywod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Gwacawyd y dudalen a gosod y canlynol yn ei lle: ''''Gwasgwch ar y botwm 'Golygu cod y dudalen' uchod, wedyn gludwch eich testun i'r blwch a chliciwch y botwm 'Dangos Rhagolwg' isod'''. <br> (Pe...'
Llinell 1:
'''Gwasgwch ar y botwm 'Golygu cod y dudalen' uchod, wedyn gludwch eich testun i'r blwch a chliciwch y botwm 'Dangos Rhagolwg' isod'''. <br>
[[File:Durango AEK Abarrak euskaltegia.jpg|thumb|Euskaltegi (canolfan iaith) AEK yn nhref Durango]]
(Peidiwch â gwasgu'r botwm 'Cadw'r dudalen')
[[File:Gabrielaresti euskaltegia 0001.jpg|thumb|Dysgwyr yn Gabriel Aresti Euskaltegi, dinas [[Bilbo]]]]
Mae '''Euskaltegi''' yn ganolfan ar gyfer dysgu ''Euskara'' – yr [[Basgeg|iaith Fasgeg]] i oedolion.
 
Sefydlwyd yr Euskaltegis cyntaf yn y 1960au a 1970au pan orfodid y Sbaeneg yn unig iaith [[Gwlad y Basg|Wlad y Basg]] gan lywodraeth Madrid ers [[Rhyfel Cartref Sbaen]]. Roedd cenhedlaeth cyfan o Fasgwyr wedi'u hatal rhag dysgu eu hiaith, yn methu ei siarad o gwbl neu ddim ond yn gallu ei siarad ac yn methu ei darllen neu'i hysgrifennu.
 
 
==Tyfaint yr Euskaltegis==
Mae cannoedd o Euskaltegi bellach wedi'u lleoli ym mhob rhan o [[Euskal Herria]] (Gwlad y Basg), yn cynnwys yr ardaloedd yn Ffrainc a Nafarroa (Sbaeneg: ''Navarra'').
 
Mae'r dosbarthiadau nos yr Euskaltegis wedi bod yn hynod o lwyddiannus gyda miloedd o bobl yn llwyddo dysgu'r iaith yn rhugl.
 
Cynhelir yr Euskaltegis gan awdurdodau addysg lleol, mudiad [[AEK]] ''(Llythrennedd a Chydweithrediad dros Fasgeg)'' ac chwmnïau a phrosiectau preifat.
 
Yn yr Euskaltegis mae modd sefyll arholiadau angenrheidiol ar gyfer swyddi. Mae'r Euskaltegis hefyd yn rhoi cryn bwyslais ar lythrennedd gan gynorthwyo oedolion sydd yn siaradwyr Euskara yn barod i fod yn hyderus ysgrifennu a darllen yr iaith.
 
Ers y 1970au sefydlwyd senedd hunanlywodraethol yn debyg i [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru|Gynulliad Cymru]] mewn tair o saith talaith Gwlad y Basg. Yn yr ardaloedd yma mae'r llywodraeth Basgeg yn noddi'n Euskaltegis a'r iaith Fasgeg yn cyffredinol.
 
Ond yn y tair talaith yn Ffrainc a hefyd Nafarroa (Sbaeneg: ''Navarra'', talaith nid yw lywodraeth Sbaen yn cydnabod fel rhan o weddill Gwald y Basg) mae statws a defnydd swyddogol o'r iaith dal yn gyfyngedig iawn. Yn fan hyn mae angen i gefnogwyr a myfyrwyr codi arian sylweddol i gynnal yr Euskaltegis.
==Korrika==
[[File:Km 1966 de la 16 edicion de la Korrika.jpg|thumb|Rhedwyr y Korrika]]
Pob yn ail flwyddyn, ers [[1980]], cynhelir y [[Korrika]] ''(Rhedeg)'' er mwyn codi arian ar gyfer AEK, ac annog pobl i ddysgu Basgeg.
 
Rhediad 2300km (1400 milltir) ydy'r Korrika gyda miloedd o bobl yn rhedeg, yn eu tro, rhannau'r marathon trwy'r dydd a trwy'r nos am 11 diwrnod dros Wlad y Basg.<ref>http://www.korrika.eus/index.php?option=com_content&view=article&id=1153&Itemid=678&lang=es</ref><ref>http://www.euskomedia.org/aunamendi/54923</ref>
 
Mae arian yn cael ei godi trwy 'brynu' neu noddi cilomedrau'r rhedwyr.
 
Wedi'i ysbrydoli gan y Korrika, cynhaliwyd [[Ras yr Iaith]] dros y Gymraeg am y tro cyntaf ar Wener 20 Mehefin 2014. <ref>http://rasyriaith.cymru/</ref>
 
== Darllen Pellach==
{{multiple image
| width = 200
| footer =
| image1 = Euskal Herria Europa.png
| alt1 =
| caption1 =Lleoliad Gwlad y Basg
| image2 = Euskal Herriko herrialdeen mapa.svg
| alt2 =
| caption2 = Taleithiau Gwlad y Basg
}}
* ''Korrika: Basque Ritual For Ethnic Identity'' (The Basque Series), Teresa Del Valle, ISBN-13: 978-0874172157
* ''Gwlad y Basg - Yma o Hyd! Hanes Goroesiad Cenedl'' - Robin Evans, 2012. Gwasg Carreg Gwalch. ISBN: 9781845273316 (1845273311)
 
==Dolenni allanol==
* [http://aek.eus Gwefan AEK - Mudiad Llythrennedd a Chydweithrediad dros Fasgeg]
* [http://www.ulibarri.org Ulibarri Euskaltegia, Bilbo]
* [http://www.gabrielaresti.com/?lang=es Euskaltegi Gabriel Aresti, Bilbo]
*[http://www.habe.euskadi.net/s23-5492/es/ HABE - Adran dysgu Basgeg a llythrennedd i oedolion, Llywodraeth Gwlad y Basg]
* [http://rasyriaith.cymru Gwefan Ras yr Iaith]
* [http://www.korrika.eus Gwefan y Korrika]
 
==Cyfeiriadau==
{{Reflist}}
 
[[Categori:Gwlad y Basg]]