Agor y brif ddewislen

Newidiadau

Lleihawyd o 1 beit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
Cywirwyd y camdeipio
[[Delwedd:Bloch-SermonOnTheMount.jpg|thumb|250px|right|Pregeth ar y Mynydd gan Carl Heinrich Bloch, arlunydd Daneg, tua 1890.]]
Mae '''Cristnogaeth''' neu '''Cristionogaeth''' yn [[crefydd|grefydd]] [[undduwiaeth]] sy'n seiliedig ar ddysgeidiaeth a ffydd bersonnolbersonol yn [[Iesu Grist]]. Gosodir prif egwyddorion Cristnogaeth yn y [[Beibl]], casgliad o lyfrau a llythyrau a ysgrifennwyd yn yr iaith Aramaeg, Hebraeg a [[Groeg (iaith)|Roeg]] yn wreiddiol. Mae'r enw '''Crist''' yn dod o'r gair Groeg ''Χριστός (Christos)'' sy'n golygu "yr Eneiniog".
 
Gorchymyn cyntaf Iesu Grist oedd "caru Duw", a'r ail orchymyn oedd "câr dy dymydog" ([[Yr Efengyl yn ôl Marc|Marc]] XII:30,31 a [[Yr Efengyl yn ôl Luc|Luc]] X:27). Mae haeloni (anhunanoldeb), trugaredd a chyfiawnder yn ganolog i Gristnogaeth ond y cysyniad creiddiol yn y ffydd Gristnogol ydy [[Gras]] Duw. Hanfod Cristnogaeth ydy fod pob peth yn bosib trwy ras Duw ac fod y ddynoliaeth yn medru dod i berthynas a Duw ac etifeddu bywyd tragwyddol yn y Nefoedd trwy ffydd sy'n bosib trwy ras Duw ac nid trwy weithredoedd dynion. Canolbwynt y ffydd Gristnogol oedd gwaith Iesu Grist, rhan o'r Duwdod Cristnogol, a'r y Groes yn cymodi dyn a Duw. Gwel Cristnogion y weithred yma fel yr ymddangosiad amlycaf o ras eu Duw ac i'r Cristion "Crist ac yntau wedi ei groeshoelio" yw canolbwynt a man cychwyn eu ffydd.