Thomas Percy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
:''Am bobl eraill o'r un enw, gweler [[Thomas Percy (gwahaniaethu)]].''
 
Clerigwr [[Eglwys Loegr|Anglicanaidd]], awdur a hynafiaethydd oedd '''Thomas Percy''' ([[13 Ebrill]] [[1729]] - [[30 Medi]] [[1811]]), [[Esgob Dromore]]. Roedd yn frodor o [[Bridgnorth]], [[Swydd Amwythig]]. Cyn cael cael ei benodi yn esgob bu'n gaplan i [[Siôr III o'r Deyrnas Unedig|Siôr III]]. Cofir Percy yn bennaf am ei gyfrol hynod ddylanwadol ''[[Reliques of Ancient English Poetry]]'' (1765), casgliad o [[baled|faledi]] o Loegr a Gororau'r Alban a chafodd ddylanwad mawr ar y mudiad [[Rhamantiaeth|Rhamantaidd]] ac a fu'n gyfrifol am adfer y faled fel ffurf lenyddol yn Lloegr.
 
==Hynafiaethydd a llenor==
Cyhoeddodd Percy sawl cyfieithiad o weithiau hynafol, yn cynnwys cerddi [[Gwlad yr Ia|Islandig]] a fersiwn o ''[[Caniad Solomon|Ganiad Solomon]]''. Cyhoeddodd gyfres o erthyglau am lenyddiaeth Tsieinëeg hefyd.
 
Roedd yn ffigwr cyfarwydd yng nghylchoedd llenyddol Lloegr, yn adnabod [[Samuel Johnson]], [[Thomas Warton]], a [[James Boswell]]. Bu'n cyfathrebu gyda aelodau o [[Morisiaid Môn|Gylch y Morisiaid]] hefyd, yn cynnwys [[Evan Evans (Ieuan Fardd)]].
 
Ymddengys fod Percy wedi cael ei ysbrydoli gan lwyddiant cerddi "[[Ossian]]" gan [[James MacPherson]]. Cafodd hyd i'r baledi mewn hen lawysgrif roedd morwyn yn nhŷ un o'i gyfeillion am losgi yn y tân. Diwygiodd rhai o'r cerddi a chyhoeddi'r gwaith yn 1765. Daeth yn gyfrol boblogaidd iawn a aeth trwy sawl argraffiad. Cafodd ddylanwad yng Nghymru hefyd: dyma'r fath o ddiddordeb mewn hynafiaethau yn y 18fed ganrif yn Lloegr a symbolodd golygyddion y ''[[Myvyrian Archaiology of Wales]]'' i fynd ati i gyhoeddi'r gyfrol honno ar ddechrau'r 19eg ganrif, yn rhannol er mwyn profi i'r byd fod gan Gymru hefyd [[Llenyddiaeth Gymraeg|lenyddiaeth hynafol a chyfoethog]].
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
==Dolenni allanol==
* {{eicon en}} [http://www.rascal.ac.uk/index.php?CollectionID=380&navOp=locID&navVar=25 Llyfrgell Percy], Prifysggol y Frenhines, Belffast
* {{eicon en}} [http://www.bishoppercyshouse.co.uk/ Amgueddfa Tŷ'r Esgob Percy], Bridgnorth
 
{{DEFAULTSORT:Percy, Thomas}}
[[Categori:GenedigaethauBeirdd 1729Saesneg]]
[[Categori:MarwolaethauBeirdd 1811Seisnig]]
[[Categori:Esgobion Dromore]]
[[Categori:Genedigaethau 1729]]
[[Categori:Hynafiaethwyr Seisnig]]
[[Categori:Llenorion Saesneg]]
[[Categori:Llenorion Seisnig]]
[[Categori:Marwolaethau 1811]]
[[Categori:Pobl o Swydd Amwythig]]
[[Categori:Ysgolheigion Seisnig]]
 
{{Authority control}}