Thomas Percy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 6:
Cyhoeddodd Percy sawl cyfieithiad o weithiau hynafol, yn cynnwys cerddi [[Gwlad yr Ia|Islandig]] a fersiwn o ''[[Caniad Solomon|Ganiad Solomon]]''. Cyhoeddodd gyfres o erthyglau am lenyddiaeth Tsieinëeg hefyd.
 
Roedd yn ffigwr cyfarwydd yng nghylchoedd llenyddol Lloegr, yn adnabod [[Samuel Johnson]], [[Thomas Warton]], a [[James Boswell]]. Bu'n cyfathrebu gyda aelodau o [[MorisiaidMorysiaid Môn|Gylch y Morisiaid]] hefyd, yn cynnwys [[Evan Evans (Ieuan Fardd)]].
 
Ymddengys fod Percy wedi cael ei ysbrydoli gan lwyddiant cerddi "[[Ossian]]" gan [[James MacPherson]]. Cafodd hyd i'r baledi mewn hen lawysgrif roedd morwyn yn nhŷ un o'i gyfeillion am losgi yn y tân. Diwygiodd rhai o'r cerddi a chyhoeddi'r gwaith yn 1765. Daeth yn gyfrol boblogaidd iawn a aeth trwy sawl argraffiad. Cafodd ddylanwad yng Nghymru hefyd: dyma'r fath o ddiddordeb mewn hynafiaethau yn y 18fed ganrif yn Lloegr a symbolodd golygyddion y ''[[Myvyrian Archaiology of Wales]]'' i fynd ati i gyhoeddi'r gyfrol honno ar ddechrau'r 19eg ganrif, yn rhannol er mwyn profi i'r byd fod gan Gymru hefyd [[Llenyddiaeth Gymraeg|lenyddiaeth hynafol a chyfoethog]].