Hoyw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
chwith: ychydig is na'r paragraff cyntyaf
Dim crynodeb golygu
Llinell 6:
 
Yn wreiddiol mae'r gair yn golygu ''hapus'', ''llon'', ''sionc'', ''bywiog'' neu ''diofal''.<ref>[[Geiriadur Prifysgol Cymru]], tud. 1901.</ref> Mae gan ''hoyw'' yn ei ystyr traddodiadol nifer fawr o [[tarddair|darddeiriau]], yn cynnwys ''hoywad'' (addurniad neu daclusiad), ''hoywi'' (i wneud rhywbeth yn hoyw), ''hoywaidd'' (bron yn gyfystyr â ''hoyw''), ''hoywder'' (y briodwedd o fod yn hoyw), a nifer o [[cyfansoddair|gyfansoddeiriau]] megis ''hoywdon'', ''hoywfro'' a ''hoyw-wyrdd''.<ref>{{dyf gwe | teitl = Fersiwn Cryno o Argraffiad Cyntaf [[Geiriadur Prifysgol Cymru]] | url = http://www.aber.ac.uk/geiriadur/pdf/GPC0018-06.pdf | dyddiadcyrchiad = 20 Ebrill | blwyddyncyrchiad = 2008 | cyhoeddwr = [[Prifysgol Aberystwyth]] }} Chwiliwch y ffeil am "hoyw".</ref>
[[Delwedd:Marcha-buenos-aires-gay2.jpg|left|bawd|250px|HoywGymuned hoyw yn yr Ariannin]]
 
Yn [[20fed ganrif|yr ugeinfed ganrif]] lledaenodd y defnydd o ''hoyw'' fel term i ddisgrifio cyfunrywioldeb. Datblygodd y synnwyr newydd hwn dan ddylanwad y gair [[Saesneg]] ''gay'', sef, yn ei ystyr traddodiadol, y cyfieithiad agosaf at ''hoyw''; oherwydd y newid yn ystyr y gair Saesneg, a oedd wedi cael ei gymhwyso at gyfunrywioldeb erbyn degawdau cynnar y ganrif, gweliwyd newid yn ystyr y gair Cymraeg hefyd. Heddiw mae ''hoyw'' wedi ei safoni fel y term Cymraeg anffurfiol i ddisgrifio cyfunrywioldeb,<ref>Gweler defnydd o'r gair ''hoyw'' gan y [[BBC]] ([http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_5240000/newsid_5246400/5246482.stm]), [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru]] ([http://new.wales.gov.uk/news/ThirdAssembly/Equality/2007/1824414/?lang=cy]), [[GIG Cymru|Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru]] ([http://www.wales.nhs.uk/w-searchresults.cfm?q=hoyw&requiredfields=DC%252Elanguage%3Acym]), a'r mudiad hawliau [[LHDT]] [[Stonewall (DU)|Stonewall]] ([http://www.stonewallcymru.org.uk/cymru/welsh/]).</ref> gydag ''hoywon'' fel gair lluosog am gyfunrywiolion. Ond er bod ''hoyw'' yn cyfeirio at holl bobl gyfunrywiol mewn rhai cyd-destunau, mae'r term ''[[lesbiad]]'' yn rhyw-benodol (mae'n disgrifio menywod cyfunrywiol yn unig), felly weithiau defnyddir ''hoyw'' a ''hoywon'' i ddisgrifio dynion yn unig (gweler [[Cyfunrywioldeb#Terminoleg a geirdarddiad|terminoleg cyfunrywioldeb]]).<ref>{{dyf gwe |url=http://www.stonewallcymru.org.uk/cymru/welsh/ein_gwaith/gwyliwch_allan/adnoddau_newyddiadurwr/geiriadur_derbyniol/termau_gwell/default.asp |cyhoeddwr=[[Stonewall (mudiad)|Stonewall Cymru]] |teitl=Termau Gwell ar gyfer eu Defnyddio mewn Adroddiadau Cyfryngau |dyddiadcyrchiad=1 Medi 2012 }}</ref> Gall hefyd disgrifio pethau sy'n gyffredin i bobl gyfunrywiol, e.e. hanes hoyw, cerddoriaeth hoyw. Weithiau defnyddir y gair ''hoyw'' i gyfeirio at berthnasoedd rhwng pobl o'r un ryw, er enghraifft ''priodas hoyw'', er bod rhai cefnogwyr [[LHDT]] yn annog yn erbyn y defnydd hwn ar y sail ei fod yn eithrio pobl [[deurywioldeb|ddeurywiol]] a [[trawsrywedd|thrawsryweddol]] ac yn annog defnyddio ''cyfunryw'' yn lle.